Sian ym Mhrosiect Green AcademiesAnna Maggs2018-11-26T12:03:52+00:00
Mae Sian, sy’n 20 oed, yn fyfyrwraig cyfrifiadura o Wrecsam. Mae’n gwirfoddoli gyda Phrosiect Green Academies (GAP) gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig. Cyn ymuno â GAP doedd hi ddim yn meddwl amdani’i hun fel person awyr agored. Doedd hi ddim yn hoffi pryfed na baeddu! Ond fe ymunodd â GAP oherwydd ei bod eisiau cyfarfod pobl newydd a magu hyder. Er mawr syndod iddi, yr hyn mae hi’n ei fwynhau fwyaf yw dod allan o’r tu ôl i’w gliniadur a mynd ati i wneud tasgau awyr agored. Mae wedi bod yn dysgu sut i dyfu llysiau ac mae’n edrych ymlaen at flasu cawl gwrd yn fuan!
‘Dydw i dal ddim yn hoff iawn o bryfed ond rydw i’n deall pwysigrwydd prosiectau fel GAP. Mae gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae mewn gofalu am yr amgylchedd ac mae GAP yn ein cefnogi ni i ddysgu sgiliau a gwybodaeth i wneud hynny.’
Mwy o wybodaeth amBrosiect Green Academiesyn Newcastle, Manceinion, Birmingham, Wrecsam a Llundain.