Sian Real Stories Green Futures
Ymunodd Sian sy’n 21 oed â Green Futures ar ôl cael anawsterau gyda’i chwrs lefel A. Cafodd ddiagnosis hwyr o ddyspracsia ac anawsterau iechyd meddwl yn dilyn marwolaeth ei thad yn ifanc. Er bod yr ysgol yn anodd iddi, roedd wedi mwynhau’r grŵp gweithredu amgylcheddol yno. Ymunodd â Green Futures fel Prentis Cadwraeth Amgylcheddol ym mis Medi 2016 ac am ddwy flynedd ychwanegodd restr hir o sgiliau at ei CV. Bellach mae’n falch o ddweud bod ganddi brofiad mewn arolygu rhywogaethau, cydlynu prosiectau, marchnata digidol ac ymgyrchu, ymhlith pethau eraill. Daeth yn gynrychiolydd ieuenctid ar Grŵp Llywio Our Bright Future ac mae wedi datblygu i fod yn siaradwr ac ymgyrchydd hyderus. Erbyn hyn mae’n astudio am radd mewn Cadwraeth Amgylcheddol.
‘Fe wnes i raddio o gynllun prentisiaeth Green Futures yn berson gwahanol iawn i’r un wnaeth ddechrau arno. Mae gen i ddyled enfawr i Our Bright Future, Green Futures ac Ymddiriedolaeth Natur Cumbria am ddarparu’r peth pwysicaf yn fy mywyd i am y ddwy flynedd yna. Hwn oedd y tro cyntaf yn fy mywyd i mi deimlo bod gen i reswm i godi yn y bore.’
Mwy o wybodaeth am Green Futures yn Sir Efrog, Cumbria a Sir Gaerhirfryn.