Steven yn Growing ConfidenceAnna Maggs2019-09-10T12:22:21+01:00
Mae gan Steven, sy’n 22 oed, ddyspracsia a syndrom Asperger, ac mae’n brwydro yn aml yn erbyn gorbryder. Mae wedi bod â diddordeb mewn byd natur erioed ac ymunodd â Growing Confidence i ddysgu sgiliau adnabod bywyd gwyllt newydd ac i wella ei ddealltwriaeth o reoli cynefinoedd. Roedd yn mwynhau dod i adnabod pobl a gwelodd fod y gwaith corfforol yn gwella ei gydsymudiad, sy’n gallu bod yn anodd iddo oherwydd ei ddyspracsia.
‘Rydw i’n hynod ddiolchgar i brosiect Growing Confidence am fy helpu i i wella fy noniau ymarferol a fy medrusrwydd, a fy hyder cymdeithasol hefyd.’
Mwy o wybodaeth am Growing Confidence yn Sir Amwythig yma.