“Doedd yr ysgol ddim i mi, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac roeddwn i eisiau bod y tu allan yn gwneud pethau ymarferol, felly fe wnes i adael ond heb wybod beth i’w wneud nesaf mewn gwirionedd.”

Dyna lle roedd rhaglen Our Bright Future yn Fife yn gallu helpu. Roedd y rhaglen yn cynnig amrywiaeth o Brentisiaethau Modern mewn Sgiliau Gwledig, Garddwriaeth a Choed a Phren o’i safleoedd Partner ar draws Fife.

“Fe wnes i gais a chael fy nerbyn ar y rhaglen ac rydw i wedi ei mwynhau’n fawr, yn enwedig gweithio gyda’r llifau cadwyn. Bellach mae gen i fy nhocyn cynnal a chadw llif gadwyn NTPC, trawsdorri a chwympo (hyd at 380mm) yn ogystal ag achub o’r awyr a defnyddio llif gadwyn ar ben coeden, sy’n gadael i mi ddefnyddio llif gadwyn ar y ddaear ac ar uchder. Fy hoff ran i yw pan fyddwch chi’n gwneud toriad neis iawn ac rydych chi’n clywed y crac wrth i’r goeden ddisgyn heb fachu ar unrhyw beth ar y ffordd i lawr! Rydw i hefyd wedi synnu fy hun gan fod ochr gwaith papur y brentisiaeth wedi bod yn iawn, yn bendant dyma’r ffordd ymlaen.”

Mae Jack wedi gwneud mor dda fel ei fod wedi’i enwebu yn rownd derfynol Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Diwydiannau’r Tir a Dyframaethu Lantra Scotland yn y categori Coed a Phren, gan ddod yn ail o drwch y blewyn. Mae’r hyfforddiant a’r profiad y mae wedi’u cael wedi galluogi iddo fynd i mewn i’r sector gwledig fel gweithiwr proffesiynol medrus yn y maes o’i ddewis.

Gallwch weld fideo byr gan Jack o’i brofiad fel Prentis Modern mewn Coed a Phren ar Stad Falkland: