Cafodd Maddie ei magu yng Ngogledd Sir Lincoln, ac mae’n disgrifio sut treuliodd ei phlentyndod gyda’i rhieni a’i nain a’i thaid. Roedd byw mewn rhan wledig o Loegr yn golygu bod ganddi bob amser berthynas gref â’r amgylchedd lleol. “Roeddwn i’n hoff iawn o’r awyr agored beth bynnag… roeddwn i wastad eisiau gwneud rhywbeth gydag anifeiliaid pan oeddwn i’n eithaf ifanc.” Arweiniodd ei hangerdd dros fyd natur ati’n dilyn cwrs gradd mewn Sŵoleg. Roedd Maddie yn ei chael yn anodd iawn addasu i’r brifysgol felly ar ôl ychydig fisoedd, rhoddodd y gorau i’r cwrs a symud yn ôl adref a chofrestru mewn prifysgol leol. Dyma pryd y dechreuodd hi ar ei siwrnai yn gwirfoddoli ym maes cadwraeth a byd natur. Fel rhan o fodiwl prifysgol, dechreuodd wirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog ar wahanol brosiectau. Effeithiwyd ar ei grŵp yn y brifysgol gan Covid19, ac felly roedd rhaid iddi gwblhau rhan o’i gradd yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol. Roedd hyn yn golygu ei bod wedi colli llawer o’r profiadau a’r cyfleoedd y byddai person ifanc yn eu cael fel arfer. 

Fe gymerodd Maddie ran yn y prosiect Tomorrows Natural Leaders yn ystod egwyl o’i hastudiaethau prifysgol, a rhoddodd hyn gyfle iddi gysylltu â phobl oedd â diddordeb tebyg iddi hi. Mae’n disgrifio’r prosiect fel un wnaeth roi lle iddi gael profiad o weithio yn y sector amgylcheddol. “Rydw i’n meddwl ei fod yn rhoi blas da ar weithio, ond heb unrhyw bwysau, a dweud y gwir, hefyd, a chyfle i wybod sut brofiad fyddai gweithio mewn amgylchedd y byddech chi eisiau gweithio ynddo yn y dyfodol efallai”. Hefyd fe roddodd sgiliau trosglwyddadwy iddi, fel sut i ymgysylltu â phobl ac ysgwyddo cyfrifoldeb. Er ei bod yn gweld cyfrifoldeb y prosiect yn heriol ar brydiau, fe roddodd ymdeimlad cyffredinol o gyflawniad iddi. “Roeddech chi’n gallu gweld prosiectau’n dod yn eu blaen, felly roedd yn eithaf da yn y ffordd yna, teimlo eich bod chi wedi cyflawni rhywbeth”. Fe sylwodd Maddie bod cymryd rhan yn y prosiect wedi helpu ei hiechyd meddwl a’i lles. Roedd treulio amser ym myd natur, cael nod mwy i weithio tuag ato a chefnogaeth y staff ac aelodau eraill ei thîm i gyd yn ffactorau a gyfrannodd at y gwelliant yn ei hiechyd meddwl. “Fe wnaeth fy helpu i i sicrhau cyflwr iechyd meddwl gwell, a’r gefnogaeth ges i yno”. Fe ddisgrifiodd Maddie y profiad fel “cyfle unwaith mewn oes dim ond i fwynhau dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd heb bwysau, a’i wneud gyda phobl roeddwn i wir yn cyd-dynnu’n dda iawn gyda nhw, ac roeddech chi’n gallu ei reoli eich hun, cwrdd â phobl newydd.” 

Fe gadarnhaodd yr amser gyda Tomorrows Natural Leaders ddiddordeb Maddie yn yr amgylchedd a chadwraeth. Pan ofynnwyd iddi pa newid yr hoffai ei weld yn y byd dywedodd y dylai fod cynnydd mewn “ymwybyddiaeth a pharch at yr amgylchedd… Mae’n drist iawn nad oes gan rai pobl unrhyw barch tuag ato o gwbl, ac rydych chi’n gobeithio yn y rhan fwyaf o achosion ei fod oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd a pha mor bwysig ydi hynny.” Trafododd pa mor bwysig yw prosiectau fel hyn ar gyfer creu ymwybyddiaeth amgylcheddol. “Rydw i’n meddwl nad yw rhai pobl yn cael y cyfle i ddysgu amdano, fe fyddwn i eisiau i bobl gael y cyfle hwnnw, fel eu bod nhw’n gallu mynd ymlaen i ddysgu mwy. Ie, rydw i’n meddwl y byddai cael arweinwyr cryfach a mwy o gyfleoedd mewn meysydd fel hynny yn gadarnhaol iawn i’r amgylchedd”. Mae Maddie eisiau parhau i greu mwy o ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol. Yn y cyfweliad, tynnodd sylw at bwysigrwydd dim ond un sgwrs. Pe bai pob person rydych chi’n siarad â nhw’n dod ychydig yn fwy ymwybodol, fe fyddai hynny’n cyfrannu at ddatrys y broblem. 

Ar ôl ei chyfnod gyda’r prosiect aeth Maddie ymlaen i orffen ei gradd. Er ei fod yn brofiad heriol ar adegau, graddiodd Maddie gyda gradd Dosbarth Cyntaf. Ers hynny, mae hi wedi dechrau mewn swydd fel ymgynghorydd ecolegol. Disgrifiodd sut rhoddodd y prosiect yr iaith, y sgiliau a’r hyder iddi weithio yn y sector amgylcheddol.