“Rydw i’n meddwl bod UpRising yn agwedd y mae angen i bawb ei phrofi”
Daeth Ming i’r DU o Tsieina pan oedd yn 6 oed a chafodd hyn effaith sylfaenol ar ei bywyd. Mae Ming yn nodi bod ei hysgol yn Southport yn “eithaf bach ond yn eithaf neis, fe ddysgon nhw Saesneg i mi”. Mae Ming yn cofio bod ‘bod yn wahanol’ yn rhan o’i bywyd bob dydd, pan symudodd ei theulu. Ming oedd yr unig berson nad oedd yn wyn, nad oedd yn Brydeinig yn ei hysgol yn Sir Durham. “Roeddwn i’n sefyll allan fel person, ac fe ges i gyfle i fod yn fi fy hun oherwydd roedd gen i’r peth unigryw yma’n barod… doedd dim ffordd i mi fod o’r golwg, yn llythrennol”. Rhoddodd y profiad yma yr hyder i Ming ddilyn ei haddysg. Fe gafodd gasgliad hynod lwyddiannus o TGAU ac enillodd ysgoloriaeth wedyn i ysgol breswyl yn Sir Efrog. Yno sylwodd hi ar wahaniaeth dosbarth. Fe gafodd hi sioc ddiwylliannol, roedd ei chefndir yn wahanol iawn i’r cyd-ddisgyblion yma yr oedd eu teuluoedd yn ddiplomyddion a pherchnogion busnes.
Fe ddylanwadodd profiad Ming yn yr ysgol breswyl, ynghyd â’i phrofiadau o gyfalafiaeth a chymdeithas yn gyffredinol, ar ei dealltwriaeth o lwyddiant – teimlai fod ei gwerth yn seiliedig ar ei chynhyrchiant a’i gallu i ennill arian yn unig. Fe wnaeth hyn ymestyn i’r brifysgol a’i barn am ei bywyd yn y dyfodol. Fe ddisgrifiodd gymryd rhan yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol yn UpRising fel ymyriad i’r ffordd yma o feddwl. “Fe newidiodd fy ngwerth i lwyddiant yn llwyr yn UpRising, ac fe arweiniodd fi at wahanol lwybrau, llwybr gwahanol yn fy mywyd lle wnes i roi cyfle i mi fy hun fod yn greadigol ac yn archwiliol”. Fe roddodd y rhaglen gyfle i Ming weld dyfodol arall iddi hi ei hun, “Mae fel bod gen i’r holl bobl anhygoel yma gyda gwybodaeth anhygoel… a gwerthoedd, fel popeth yn fy nwylo, a doeddwn i erioed wedi cael hynny o’r blaen.”
“Fe roddodd UpRising ymdeimlad mor gryf o bwrpas i mi!”
Fe roddodd UpRising gyfle i Ming wir ddeall y sgiliau crai sy’n gysylltiedig ag arweinyddiaeth – gan ei harfogi ar gyfer ymdrechion yn y dyfodol yn ei bywyd personol a phroffesiynol. “Ar ôl UpRising, roeddwn i eisiau cael safbwyntiau ehangach a gweld beth arall oedd ar gael.” Mae Ming yn cyfeirio at ei phrofiad o UpRising fel rhywbeth wnaeth ennyn ei hyder a’i chwilfrydedd i archwilio llefydd a safbwyntiau newydd ym mhob cwr o’r byd. Arweiniodd y chwilfrydedd hwn at Ming yn cymryd rhan mewn gweithdai ar droseddau casineb a hefyd yn gwirfoddoli i gefnogi ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg, lle treuliodd amser yn gweithio gyda sefydliad a roddodd “ymdeimlad pellach o gymuned ac ymdeimlad o bwrpas” iddi. Yn ogystal â’r gwaith pwysig hwn, cynorthwyodd Ming i ysgrifennu adroddiadau polisi ar gyfer Cyngor Ar Bopeth. Mae ei siwrnai yn parhau ac yn esblygu o hyd ac eto mae hi’n dal gafael o hyd ar yr hyn a ddysgodd hi yn ystod ei hamser gydag UpRising. Mae’n ei ddisgrifio fel “agwedd, un y dylai pawb ei phrofi”.
“Arweinyddiaeth UpRising yw: sut gallaf i fod yn arweinydd er lles? Sut gallaf i fod yn arweinydd gyda gwerthoedd?”
Fe newidiodd cymryd rhan yn y rhaglen bersbectif Ming am yr amgylchedd, mae hi’n disgrifio “mewn gwirionedd roedd yn sylfaen i bopeth arall rydw i’n ei ddeall ac yn ei ystyried yn bwysig nawr … heb yr amgylchedd does gennych chi ddim byd”. Fe roddodd y rhaglen well dealltwriaeth iddi a mwy o ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn y byd. Mae’n disgrifio sut roedd dysgu am yr amgylchedd yn fendith iddi. Fe roddodd gyfle iddi ddeall pwysigrwydd addysgu cymdeithas am effeithiau a difrod amgylcheddol. Yn ei geiriau ei hun “Rydw i’n fwy gwybodus am yr amgylchedd nag y byddwn i erioed wedi bod heb UpRising”.
“Heb UpRising, ’fyddwn i ddim yn ceisio cael effaith yn y ffordd rydw i’n cael effaith nawr.”