Fe wnaeth prosiect BEE You Blackburne House ymgysylltu â phobl ifanc i ymgymryd â rhaglen o hyfforddiant gwenynwyr ymarferol a theori. Datblygodd y tîm fersiynau amrywiol o’r rhaglen addysg i sicrhau cynhwysiant i ddysgwyr. Roedd gwahanol hyd i’r rhaglen (sesiynau blasu, 4 wythnos, 12 wythnos a 15 wythnos) yn darparu ar gyfer pob oedran, lleoliad a gallu. Hefyd cyflwynodd y tîm raglen amgylcheddol hirach a dwysach o’r enw Rhaglen MBA Mini Menter Gymdeithasol ECO gydag Ysgol Uwchradd Merched Islam Tauheedal; aeth 71 o ferched ifanc drwy’r rhaglen hon.
Darparodd y prosiect sgiliau cadw gwenyn ac entrepreneuriaeth i 694 o ddysgwyr ynghyd â dealltwriaeth o greu cynnyrch gan ddefnyddio sgil-gynhyrchion o’r cwch gwenyn. Cyrhaeddodd 2,988 o bobl ifanc eraill hefyd wrth arddangos y prosiect mewn dyddiau agored a dyddiau recriwtio.
Mae’r prosiect wedi bod yn fuddiol o ran lleihau salwch meddwl a chynyddu cysylltiad cymdeithasol i bobl ifanc. Tyfodd hyder y dysgwyr a oedd yn dawel yn eu hystafelloedd dosbarth arferol a gwnaethant gyfrannu mwy mewn ystafelloedd dosbarth awyr agored. Hefyd mae llawer, gyda’u teuluoedd, wedi dechrau magu gwenyn yn eu gerddi, sydd wedi gwella perthnasoedd teuluol a mynediad at fêl lleol.
Datblygodd y prosiect chwe gwenynfa hyfforddi o amgylch Lerpwl a gwella’r gofod o’u cwmpas. Roedd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i ddatblygu’r safleoedd hyn; roedd y partneriaid yn cynnwys South Liverpool Homes, Groundwork, Incredible Edibles, Carr Farm, Morgan Sindall a Chyngor Dinas Lerpwl.
Dechreuodd pedair ysgol a fu’n ymwneud â’r prosiect eu brand mêl eu hunain hefyd a gwerthu mêl lleol i deuluoedd lleol. Roedd hyn yn cael ei redeg a’i reoli gan yr ysgolion gyda chefnogaeth eu disgyblion. Roedd yn cael ei sbarduno ganddynt oherwydd eu gwybodaeth newydd a’u hagwedd at achub y wenynen fêl leol ond hefyd nodweddion meddyginiaethol mêl o ffynhonnell leol.
Yr hyn sydd wedi bod yn waddol gwych i’r prosiect hwn yw bod swyddogaeth addysg Blackburne House bellach yn defnyddio’r gweithlyfrau cymhwyster cadw gwenyn a ddatblygwyd gan dîm y prosiect ac yn cynnig cymhwyster Lantra Lefel 1 o fewn ei chwricwlwm prif ffrwd.
Mae mwy o wybodaeth am gadw gwenyn yn ystod y cyfyngiadau symud ar gael yn y blog yma. Darllenwch flog Rachel am ei siwrnai i fod yn diwtor cadw gwenyn a blog Aaron am fynychu cyfarfod y Fforwm Ieuenctid a’i stori. Gallwch hefyd lawrlwytho adroddiad gwerthuso’r prosiect.