Cynhaliodd Bright Future Bryniau Belfast ystod eang o raglenni i hwyluso gwelliannau lleol, ymwneud cymunedol a gweithredu ar y safle, drwy waith allgymorth mewn ysgolion a gydag ieuenctid.
  • Gwnaeth y prosiect gysylltiad wyneb yn wyneb â 13,262 o bobl ifanc yn ystod chwe blynedd y rhaglen – cyfartaledd o 2210 o bobl ifanc y flwyddyn!
  • Roedd 848 o blant ysgol yn cymryd rhan yn rheolaidd bob blwyddyn
  • Ymgysylltodd mwy na 6,800 o bobl ifanc drwy ei blatfformau cyfryngau cymdeithasol ag ymgyrchoedd neu weithdai amrywiol gan gynnwys Gŵyl Gyrfaoedd ar-lein hynod lwyddiannus
Datblygodd tîm Partneriaeth Bryniau Belfast weithdai cyflogadwyedd, fideos cyngor ar-lein, ffug gyfweliadau a hyfforddiant un i un. Yn ystod grŵp ffocws gyda rhai pobl ifanc tynnwyd sylw at yr effaith gadarnhaol a gafodd y cyfleoedd hyn ar eu dewisiadau gyrfa, eu gallu i sicrhau cyflogaeth ac, yn syml, cynyddu eu hyder. Mae cael pobl ifanc fedrus, hyderus i ymuno â’r sector cyflogaeth werdd a fydd, yn eu tro, yn cael effaith gadarnhaol yn waddol gwych i’r rhaglen.
“Fe wnaeth bod yn rhan o brosiect Bright Future Bryniau Belfast roi cyfle i mi gael profiad ymarferol hanfodol ochr yn ochr â fy ngradd yn y brifysgol. Fe ddysgais i sgiliau newydd wrth gyflwyno sesiynau addysg awyr agored, cadwraeth amgylcheddol fel arolygu, plannu a rheoli cynefinoedd ac fe gefais i gyfle i elwa o weithdai cyflogadwyedd a hyfforddiant cyfweld a oedd yn ddefnyddiol iawn wrth wneud cais am swyddi. Hefyd fe roddodd fy mhrofiad i gyda’r prosiect hwb i fy hunanhyder a fy annog i fynd ar ôl cyfleoedd eraill. Diolch i’r profiad yma, rydw i bellach yn gweithio’n llawn amser mewn rôl rydw i wrth fy modd â hi, fel Swyddog Ymgysylltu Amgylcheddol, gan arwain pobl ifanc eraill mewn gweithgareddau amgylcheddol.”
Galluogodd y rhaglen ystod eang o safleoedd i gwblhau amrywiaeth o welliannau amgylcheddol, o sesiynau casglu sbwriel i blannu coed brodorol a blodau gwyllt. Roedd rhai safleoedd yn dir ysgolion neu’n safleoedd diwydiannol yn ardal Bryniau Belfast ac felly nid oeddent yn hygyrch i’r cyhoedd yn gyffredinol. Roedd safleoedd eraill yn barciau cyhoeddus, gwarchodfeydd natur a mannau gwyrdd lleol y mae pawb yn eu mwynhau. Gwnaed cyfanswm o tua 30ha o waith gwella gan bobl ifanc dros y blynyddoedd, gan gynnwys creu coetir 9ha, gydag un goeden wedi’i phlannu ar gyfer pob person ifanc oedd yn rhan o’r cynllun.
Dywedodd un athrawes bod yr ysgol, o ganlyniad i fod yn rhan o’r prosiect, wedi ffurfio tîm bioamrywiaeth sy’n gweithio gyda gwahanol adrannau yn yr ysgol i drawsnewid tir yr ysgol a’u gwneud yn fwy ystyriol o fywyd gwyllt.
Yn 2019, cynhaliwyd seminar pob prosiect Our Bright Future yn Belfast, Ysgrifennodd y Swyddog Allgymorth, Jo, flog am y profiad. Eisiau cael gwybod mwy am y prosiect? Darllenwch stori Alanna a lawrlwytho adroddiad gwethuso y prosiect.