Datblygodd Bright Green Future (BGF) CSE 193 o arweinwyr ifanc gyda sgiliau i ddylanwadu ar benderfyniadau am ynni a’r amgylchedd yn eu hardal leol. Roedd y prosiect yn cefnogi pobl ifanc drwy datblygu sgiliau; arweinyddiaeth prosiect ymarferol; lleoliadau ‘polisi a dylanwad’ ac wythnos breswyl i roi dysgu rhwng cymheiriaid i BFGers, siaradwyr heriol ac ysgogol a gweithgareddau i ddatblygu sgiliau a hyder.
Mewn arolwg o gyfranogwyr y gorffennol:
  • Dywedodd 81% bod eu hyder wedi gwella
  • Dywedodd 79% bod eu hunan-barch wedi gwella
  • Dywedodd 92% eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch gallu llunio a dylanwadu ar y system gynllunio leol i effeithio’n gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Roedd y cwmnïau a’r sefydliadau a fu’n ymwneud â chynnal gweithdai/ siarad â myfyrwyr BFG yn cynnwys: Y Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref, Banc Triodos, FairShare, Llywodraeth yr Alban, Cyfeillion y Ddaear, Good Energy a Llysgenhadon Du a Gwyrdd dros Fryste. Darparodd y siaradwyr ysbrydoliaeth i’r myfyrwyr a rhoi cyfle iddynt lwyfannu eu gwaith cynaliadwyedd a chyfiawnder cymdeithasol i gynulleidfa ifanc.
“Yn dod allan o’r penwythnos, rydw i’n berson sydd wedi newid. Rydw i’n fwy ymwybodol o’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu, ond rydw i’n teimlo fy mod i wedi fy ngrymuso i wneud mwy amdanyn nhw, wedi fy ysbrydoli gan straeon yr ymgyrchwyr o fy nghwmpas. Rydw i’n gadael yn llawn gobaith ar gyfer y dyfodol. Rydw i hefyd yn gadael gyda mwy o wybodaeth amdanaf i fy hun. Ac mae hynny bob amser yn beth da.”
“Mae wedi gwneud i mi ystyried llwybrau gyrfa nad oeddwn i wedi meddwl amdanyn nhw o’r blaen. Mae hefyd wedi fy ngwneud i’n fwy ymwybodol yn fy mywyd bob dydd o’r hyn y gallaf ei wneud i fyw yn fwy cynaliadwy.”
Cwblhawyd 85 o brosiectau lleol drwy’r prosiect, gan fynd i’r afael ag amrywiaeth eang o faterion, a’r rhai mwyaf cyffredin oedd lleihau gwastraff neu blastig ac ynni a newid yn yr hinsawdd. Y mathau mwyaf poblogaidd o brosiectau oedd cynnal digwyddiad eco yn yr ysgol neu yn eu cymuned, cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth, plannu blodau gwyllt neu arddio cymunedol. Drwy’r prosiectau lleol hyn, amcangyfrifir bod 3,960 o bobl ifanc wedi’u cyrraedd. Mae’r rhif hwn yn seiliedig ar brosiectau lleol y myfyrwyr a faint o bobl wnaeth eu gwaith eu cyrraedd drwy fecanweithiau fel gwasanaethau ysgol, sgyrsiau ag ysgolion cynradd a gwaith allgymorth cymunedol lleol. I lawer o fyfyrwyr, y prosiect lleol oedd y tro cyntaf iddynt gael y cyfle i ddatblygu, rheoli a chyflwyno eu prosiect eu hunain o’r dechrau i’r diwedd. Roedd prosiectau lleol nid yn unig yn gyfle i archwilio pwnc cynaliadwyedd o’u dewis, ond ar sail yr ymatebion i’r arolwg, dywedodd 92% o fyfyrwyr eu bod wedi dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd mewn rheoli prosiectau carbon isel. Roedd y sgiliau hyn yn cynnwys rheoli amser, gweithio mewn tîm a chynllunio.
Mae nifer o fyfyrwyr BGF wedi dod at ei gilydd i drefnu a rhedeg rhwydwaith cynaelodau BGF. Mae hyn yn dangos gwaddol y rhaglen ac yn cynrychioli cyfle gwych i fyfyrwyr BGF sy’n graddio i gadw mewn cysylltiad, parhau i gael eu grymuso ac ysbrydoli ei gilydd. Hefyd mae’r grŵp cydlynu cynaelodau wedi creu sgwrs grŵp a rhestr bostio ar Instagram i hyrwyddo ymhellach y cyfleoedd a’r cydweithredu ymhlith y cynaelodau a’r grwpiau presennol, yn ogystal â grŵp LinkedIn i rannu cyfleoedd proffesiynol i rannu cyfleoedd yn y sector cynaliadwyedd ac amgylcheddol.
Yn 2019, cymerodd myfyrwyr BGF ran yn nigwyddiad seneddol Our Bright Future i gyflwyno barn pobl ifanc ar yr amgylchedd i lunwyr polisi. Cyfarfu’r myfyrwyr ag ASau i siarad gyda hwy am y newidiadau maent yn dymuno eu gweld a’r materion sy’n effeithio arnynt. Ysgrifennodd Matthew am y profiad yn y blog hwn. Eisiau cael gwybod mwy? Gwyliwch y fideo yma neu ddarllen Adroddiad Effaith BFG.