Cyflwynodd Creative Pathways Environmental Design bobl ifanc ddi-waith i natur, ymwybyddiaeth amgylcheddol a sgiliau gwyrdd drwy brosiectau ymarferol, creadigol a hwyliog. Cafodd y prosiect ei redeg gan Impact Arts, sefydliad celfyddydau cymunedol blaengar sy’n defnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd i alluogi a grymuso newid cymdeithasol.
  • Ymgysylltodd y prosiect â 622 o bobl ifanc ar gyrsiau 12 wythnos
  • Symudodd 417 o bobl ifanc ymlaen i gyflogaeth, gwirfoddoli, prentisiaeth, hyfforddiant, dysgu neu addysg
  • Cwblhaodd 363 o bobl ifanc achrediad
  • Trawsnewidiwyd 15 o fannau trefol a gwyrdd
O ganlyniad i’r rhaglen, mae Impact Arts wedi sefydlu grŵp llywio ieuenctid, wedi penodi ymddiriedolwr ifanc ac wedi cynnal Prosiect Gwrando blwyddyn o hyd i sicrhau bod ei bobl ifanc yn cael eu clywed, eu parchu a’u cefnogi.
Gallwch ddarllen mwy am brosiect Creative Pathways Environmental Design yn y blog hwn ac yma i gael mwy o fanylion am raglenni ieuenctid cyfredol Impact Arts. Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am lwyddiant y prosiect hwn, edrychwch ar yr adroddiad gwerthuso yma.