Darparodd prosiect Eco Talent Feedback interniaethau a lleoliadau gyda thâl i 46 o bobl ifanc gyda sefydliadau ymgyrchu amgylcheddol neu fentrau cymdeithasol/elusennau yn darparu dulliau amgen, mwy cynaliadwy i’n system fwyd bresennol. Roedd yr interniaethau wedi’u hanelu at bobl ifanc o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol neu a oedd yn teimlo bod y sector amgylcheddol yn anhygyrch iddynt. Cynhaliwyd y prosiect rhwng mis Hydref 2019 a mis Rhagfyr 2021.
Roedd y sefydliadau cynnal wedi’u lleoli yn Llundain, Manceinion a Brighton ac yn cynnwys: Sutton Community Farm, Forty Hall Farm, Sustain, GROW yn Academi Totteridge, Fork and Dig It, Rock Farm, Groundwork Llundain, Growing Communities Dagenham Farm, ffermydd clytwaith Growing Communities Hackney , SOS-UK ac Aweside Farm.
Mae pob intern wedi cael profiad gwerthfawr o ysgrifennu ceisiadau, sgiliau cyfweliad, ymarferol, profiad gwaith yn y swydd ac wedi meithrin cysylltiadau cadarn yn y sector. Mae’r ystadegau o gyfweliadau gadael yn dangos bod dwy ran o dair o’r interniaid yn ystyried mai’r sgiliau maent wedi’u meithrin yw’r peth mwyaf buddiol am ymgymryd â’u hinterniaeth, ac ymhlith yr atebion poblogaidd eraill roedd ‘cwrdd â phobl newydd’ a ‘natur lawn boddhad y gwaith’.
Roedd yr holl interniaid naill ai’n cytuno neu’n cytuno’n llwyr bod eu hyder wedi cynyddu.
“Mae pawb yn Feedback wedi dangos fy ngwir werth i mi a’r hyn y gallaf ei gyflawni. Fe wnaethon nhw roi digon o gefnogaeth i mi, felly doeddwn i ddim yn teimlo’n unig nac ar goll, ond fe wnaethon nhw hefyd roi digon o le i mi ddarganfod pethau ar fy mhen fy hun a dysgu sgiliau newydd ac annibyniaeth.”
“Wythnosau pan gefais i sesiwn gofal bugeiliol 1 diwrnod yr wythnos gan gynnwys sesiwn un i un – yn teimlo fel siarad â hyfforddwr bywyd ond yn ymwneud â’r amgylchedd a’r sector bwyd – fe wnaeth y platfform yma helpu fy hyder i gan ei fod wedi fy nilysu i. Fe wnaeth y siaradwyr allanol ein hyfforddi ni mewn siarad cyhoeddus, ysgrifennu CV, ac ati. Sut i ddefnyddio’r rhain mewn bywyd bob dydd. Fe fynyddodd y sgiliau yma fy hunan-barch i.”
Mae o leiaf hanner yr interniaid wedi sicrhau gwaith yn y sector gyda sefydliadau amgylcheddol, ar ffermydd a gyda cheginau cymunedol. Mae nifer o’r interniaid wedi mynd ymlaen i wneud mwy o hyfforddiant, gyda thri wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn prifysgol, gwnaeth un y penderfyniad i astudio cadwraeth o ganlyniad uniongyrchol i’w interniaeth EcoTalent. Aeth deuddeg intern ymlaen i sicrhau gwaith gyda’u sefydliad cynnal.