Roedd y Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol (ELP) UpRising yn rhaglen naw mis, rhan amser yn datblygu arweinyddiaeth ar gyfer pobl ifanc 18 i 24 oed. Roedd y rhaglen yn cynnwys penwythnos arweinyddiaeth cyflwyniadol, sesiynau gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol lefel uchel a sesiynau sgiliau gan hyfforddwyr arbenigol.
Yn rhan olaf y rhaglen, ffurfiodd y cyfranogwyr grwpiau llai i weithio ar ymgyrch gweithredu cymdeithasol o’u dewis, gyda’r nod o gael effaith yn y gymuned. Cawsant gyfle hefyd i wneud cais am sesiynau hyfforddi a datblygiad personol un i un a gyflwynwyd gan hyfforddwr a mentor.
Dechreuodd ELP UpRising am y tro cyntaf yn Llundain, Birmingham a Manceinion yn
2016 ac wedyn ehangu ei darpariaeth i Gaerdydd a Sir Bedford.
Cymerodd Rebecca ran yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol. Gallwch ddarllen ei stori yma.
Yn 2021, fe gynigiwyd cyllid ychwanegol i UpRising i weithredu un grŵp arall o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol. Darllenwch amdani yn yr adroddiad cryno yma.