Cafodd y prosiect From Farm to Fork ei gyflwyno ar y cyd gan Feedback a Foodcycle, rhwng mis Ionawr 2016 a mis Chwefror 2019. Fe fu From Farm to Fork yn gweithio gydag ieuenctid 16 i 24 oed, gan eu haddysgu am gynaeafu bwyd dros ben o ffermydd a’u cefnogi i baratoi a gweini prydau bwyd yn y gymuned gan ddefnyddio’r cynnyrch yma.
Cafodd y bobl ifanc eu hyfforddi mewn arferion cynaeafu diogel, sut i gysylltu â ffermwyr a chefn gwlad, a datblygu gwybodaeth weithredol am dyfu bwyd yn gynaliadwy. Drwy gymryd rhan, roedd cyfle i’r bobl ifanc greu newid cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol – gallwch ddarllen stori Farhad yma.
Hefyd gallwch ddarllen adroddiad gwerthuso prosiect From Farm to Fork yma.
Er bod y prosiect wedi dod i ben nawr, mae Feedback yn creu cyfleoedd interniaeth gyda chyflog ar hyn o bryd drwy gyfrwng prosiect Eco Talent!