Cafodd y prosiect Fruit-full Communities ei weithredu gan Learning through Landscapes, rhwng mis Ionawr 2016 a mis Ebrill 2019. Fe fu Fruit-full Communities yn gweithio gydag ieuenctid 11 i 24 oed yng nghynlluniau tai Foyer a’r YMCA ledled Cymru a Lloegr, gan feithrin eu sgiliau a’u hyder i drawsnewid gofod gwyrdd drwy greu perllannau.
Bu’r bobl ifanc yn gweithio gyda staff cefnogi i gynllunio, dylunio a phlannu eu perllannau, gan ddysgu hefyd am ofalu am goed a’u cynnal a’u cadw, yn ogystal â gyrfaoedd yn yr Economi Werdd. Hefyd cawsant gyfle i ddysgu am bwysigrwydd coed i warchod yr amgylchedd a gwneud cysylltiadau â phobl ifanc eraill sy’n gweithio gyda choed mewn gwledydd yn Affrica.
Fe gymerodd Josh ran yn y prosiect a gallwch ddarllen ei stori yma. Hefyd rhyddhaodd Learning Through Landscapes ei adroddiad gwerthuso ar brosiect Fruit-full Communities a gallwch ei ddarllen yma.