Roedd y prosiect Green Leaders yn cael ei gynnal gan Groundwork UK, rhwng mis Ionawr 2016 a mis Mehefin 2019. Cefnogodd Green Leaders ieuenctid 16 i 20 oed i ddatblygu eu syniadau ar gyfer prosiectau gofod cymunedol i herio agweddau lleol tuag at yr amgylchedd.
Cymerodd bob person ifanc ran am gyfnod o wyth mis a chael cyfleoedd mentora un i un teilwredig i ddatblygu eu sgiliau arwain a chael profiad hanfodol, gan eu grymuso i arwain gweithredu cymdeithasol cynaliadwy yn eu cymunedau eu hunain. Cefnogwyd y bobl ifanc gan staff Groundwork yn ogystal â’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid.
Fe gymerodd Farid ran yn Green Leaders a gallwch ddarllen ei stori yma.
Hefyd mae Groundwork wedi rhyddhau ei adroddiad cryno a gellir ei ddarllen yma – gan roi gwybodaeth am allbynnau’r prosiect a thynnu sylw at yr effaith mae wedi’i chael ar y bobl ifanc a’r cymunedau cysylltiedig.