Roedd Growing Confidence yn brosiect cyffrous a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Menter Tir Cymunedol Fordhall a’r Cyngor Astudiaethau Maes.
Cyflwynodd Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig y gweithgareddau canlynol:
  • Gwneud fy Mhenwythnosau’n Wyllt – dyddiau cadwraeth ymarferol misol yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli i ieuenctid 11 i 24 oed i ddysgu sgiliau cadwraeth, gan ddarganfod mwy am fywyd gwyllt a chynefinoedd Sir Amwythig
  • Hawl i Holi (ar-lein) – cyfres o ddigwyddiadau misol ar-lein yn canolbwyntio ar bynciau amgylcheddol llosg, gyda sgyrsiau gan arbenigwyr ac wedyn cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod
  • Youth for the Wild – fforwm a drefnwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gyda’r nod o annog ieuenctid 11 i 24 i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd. Roedd y sesiynau misol yn cynnwys digwyddiadau cymdeithasol, sgyrsiau, hyfforddiant a chyngor gyrfaol
  • Wild Roots – grŵp ieuenctid â ffocws amgylcheddol sy’n helpu i gefnogi gweithredu ar lawr gwlad ymysg pobl ifanc
  • Gweithgarwch cwricwlwm amgen – cynnwys pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu heithrio mewn gweithgarwch amgylcheddol ymarferol
  • Lleoliadau haf mewn prifysgolion, profiad gwaith a chynlluniau hyfforddi
Cyflwynodd Menter Tir Cymunedol Fordhall weithgarwch cwricwlwm amgen ar safle ei Fferm Gymunedol. Gweithiodd y tîm yn ddwys gyda grwpiau bach iawn (2 i 1) o bobl ifanc a oedd yn ei chael yn anodd cymryd rhan mewn lleoliadau addysg confensiynol. Drwy weithgareddau amaethyddol a chadwraeth, cynorthwywyd y bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u hunan-barch i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl TGAU. Darparwyd cefnogaeth gyda’u cynnydd gyrfaol hefyd drwy ddarparu Ardystiad AQA.
Cyflwynodd y Cyngor Astudiaethau Maes (FSC) gyrsiau hyfforddiant amgylcheddol arbenigol (dydd a phreswyl) i bobl ifanc ar bynciau fel adnabod rhywogaethau a rheoli cynefinoedd. Roedd hefyd yn cynnig profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli.
  • Roedd 6081 o bobl ifanc yn ymwneud â’r prosiect
  • Gwelwyd 87 o bobl ifanc oedd dan fygythiad o gael eu heithrio o’r ysgol yn cymryd rhan mewn lleoliadau hyfforddi
  • Enillodd 180 o bobl ifanc Ddyfarniad John Muir
  • Cafodd 94 o bobl ifanc o leiaf 5 diwrnod o leoliadau gwaith
“O ran fy mhrofiad i o’r prosiect, mae’n anodd dod o hyd i’r geiriau i ddweud pa mor wych oedd e. Mae’r prosiect yma wedi paratoi’r ffordd i mi gael fy nhroed drwy ddrws y sector cadwraeth, ac rydw i nawr ar drac cyson tuag at gyflawni fy nodau gyrfa. Rydw i o ddifrif wrth ddweud, oni bai am y cynllun hyfforddi a’r prosiect yma, nad ydw i’n credu y byddwn i’n gweithio yn y sector yma ar hyn o bryd, waeth pa mor galed y byddwn i wedi trïo. Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle yma.”
Gallwch ddarllen am brofiadau Dan yn y blog yma, cael gwybod mwy am Ddyfarniad John Muir ym mlog Bryony a darllen stori Phoebe yma. Gallwch hefyd gael gwybod mwy drwy lawrlwytho adroddiad gwerthuso Growing Confidence.