Cysylltodd y prosiect Milestones, a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Wilt a Youth Action Wiltshire, 2,157 o bobl ifanc agored i niwed â’u hamgylchedd naturiol lleol drwy gynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ac ehangu eu gwybodaeth a’u gwerthfawrogiad o fannau gwyrdd lleol. Thema gyffredinol Milestones oedd meithrin ymddiriedaeth a meithrin gwerthfawrogiad a chysylltiad â’r amgylchedd. Cafodd y dull hwn o weithredu effeithiau buddiol ar les, ymddygiad ac integreiddio cymdeithasol.
Cyflwynwyd gweithgareddau drwy dair prif elfen, ac, yn ddiweddarach yn y rhaglen, drwy ddatblygu Fferm Ofal Lakeside, sydd bellach yn bodoli fel rhan o waddol Milestones. Cyflawnodd y prosiect y canlynol:
  • 63 o raglenni Cwricwlwm Amgen
  • 229 diwrnod ‘cysylltu â natur’, ‘untro’
  • 34 diwrnod ‘Cadw mewn cysylltiad â natur’
  • 38 ‘Arweinydd ym myd natur’ a dyddiau hyfforddi llysgenhadon
  • 20 o deithiau preswyl ‘Arweinydd ym myd natur’
  • 27 o sesiynau ‘untro’ neu ‘dymor byr’ gan y Tîm Troseddau Ieuenctid
  • creu Fforwm Ieuenctid
Arweiniwyd ymchwil ffurfiol i’r prosiect gan Brifysgol Reading ac fe’i hategwyd gan arsylwadau staff, adborth, dyfyniadau, astudiaethau achos a chreu neu wella mannau gwyrdd cymunedol. Isod mae canran y cyfranogwyr a ymatebodd a oedd yn ‘cytuno’ neu’n ‘cytuno’n llwyr’ â’r datganiadau cysylltiedig:
Mae gan 85% ‘fwy o wybodaeth am natur a’r amgylchedd’
Mae gan 85% ‘fwy o sgiliau sy’n gysylltiedig â gweithio yn yr awyr agored gyda natur a’r amgylchedd’
Bydd 85% ‘yn cymryd mwy o ofal o natur a’r amgylchedd’
Mae 86% yn ‘gwerthfawrogi natur a’r amgylchedd yn fwy nawr’
88% ‘Roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar fwy o weithgareddau’
94% ‘Byddwn i wrth fy modd yn ymwneud â phrosiect arall yn y dyfodol’
‘Rydw i’n teimlo’n hapus tu mewn wrth i mi gael crwydro’r coed yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, hefyd rydw i’n gallu lleddfu straen’
Enillodd 622 o bobl ifanc 1,515 o ddyfarniadau ac achrediadau a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi eu helpu i feithrin hyder, hunan-barch a gwella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Cwblhawyd 481 o brosiectau amgylcheddol a chafodd 56 o fannau gwyrdd cymunedol eu creu, eu gwella neu eu cynnal.
Gallwch ddarllen mwy am rai o weithgareddau’r haf yn y blog yma, y fferm ofal yn y blog yma a gweld pa effaith gadarnhaol a gafodd y prosiect drwy stori Jack.