Cynhaliwyd prosiect My World My Home Cyfeillion y Ddaear rhwng mis Ionawr 2016 a mis Mawrth 2021. Cefnogwyd mwy na 280 o bobl ifanc i ymgymryd â rôl arwain amgylcheddol a sbarduno gwelliannau o ran newid yn yr hinsawdd a/neu golli bioamrywiaeth yn eu cymunedau.
Enillodd 80 o bobl ifanc Ddyfarniad Lefel 3 mewn Ymgyrchu Cymunedol (gwerth 8 pwynt UCAS) a derbyniodd 72 o fyfyrwyr eraill ‘Dystysgrif Cymeradwyaeth’.
Mae cyfranogwyr My World My Home wedi llwyddo i ddylanwadu ar newidiadau amgylcheddol yn eu colegau, eu dinasoedd, eu rhanbarthau a’u gwledydd. Dyma rai enghreifftiau:
  • symud oddi wrth ddefnyddio plastig defnydd sengl ar gampysau
  • gweithredu ynghylch llygredd aer
  • datgan argyfwng hinsawdd
  • deiseb genedlaethol i Lywodraeth Cymru i ddargyfeirio gwastraff bwyd i elusennau
  • gweithredu ynghylch ffasiwn cyflym
  • creu mannau gwyrdd
  • tyfu bwyd
  • plannu coed
Yn 2019, aeth Ummi Hoque o brosiect My World My Home i annerch arweinwyr o bob rhan o’r sector amgylcheddol yn lansiad Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol yn Llundain. Edrychwch ar ei haraith anhygoel. Gallwch hefyd ddarllen stori Declan yma a stori Thomas yma.
Edrychwch ar wefan Cyfeillion y Ddaear i weld sut gallwch chi gymryd rhan yn eu gwaith gyda phobl ifanc. Gallwch gael gwybod mwy am My World My Home drwy lawrlwytho adroddiad gwerthuso’r prosiect.