Bu One Planet Pioneers yn grymuso pobl ifanc dan anfantais mewn cynaliadwyedd amgylcheddol gan ddefnyddio cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi, prentisiaethau, cyflogaeth a mentergarwch. Drwy’r hyfforddiant hwn a dyfarniadau achrededig, datblygwyd One Planet Pioneers mewn arweinyddiaeth, eiriolaeth a gwneud penderfyniadau yn ogystal â gwybodaeth amgylcheddol ymarferol.
Cafodd y prosiect effaith gadarnhaol ar fywydau mwy na 3,000 o bobl ifanc drwy ymgysylltu, profi a dysgu sgiliau Sector Gwyrdd gwerthfawr.
Darparodd y prosiect 24 o brentisiaethau wedi’u lleoli yn Ymddiriedolaeth Natur Dyffryn Tees a Dinas Almgylchedd Middlesbrough, 5 o gyfleoedd profiad gwaith Kick Start a 22 o gyfleoedd mentoriaid cymheiriaid. Roedd Shannon yn un o’r bobl ifanc yma, gallwch ddarllen ei stori yma.
Roedd y prosiect hefyd yn darparu cyngor gyrfaoedd, cymorth a hyfforddiant i’w brentisiaid, y kick starters a’r hyfforddeion i hybu eu datblygiad proffesiynol personol. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys dysgu sut i greu CV, sut i ysgrifennu llythyrau cais ar gyfer swyddi penodol a sut i chwilio am swyddi a chofrestru gyda safleoedd swyddi ac ati. Mae’r holl bobl ifanc sydd wedi parhau i ymwneud â’r prosiect wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw swyddi gwag sydd wedi dod ar gael gan bartneriaid prosiect a rhwydweithiau cysylltiedig. O ganlyniad, mae mwy na phump o bobl ifanc wedi cael cyflogaeth bellach.
Gofynnwyd i gyfranogwyr y prosiect gwblhau arolwg hydredol byr. Dyma’r canlyniadau:
  • Dywedodd 85% o’r cyfranogwyr bod y prosiect wedi gwella eu hiechyd a’u lles
  • Dywedodd 85% o’r cyfranogwyr bod y prosiect wedi gwella eu sgiliau cyfathrebu
  • Dywedodd 60% o’r cyfranogwyr bod y prosiect wedi gwella eu hunan-barch
  • Dywedodd 87% o’r cyfranogwyr bod y prosiect wedi gwella eu hyder
Bu pobl ifanc yn ymwneud â gwella pum gwarchodfa natur (cyfanswm o 188 hectar). Roedd y safleoedd eraill a gafodd eu gwella er budd natur a bywyd gwyllt yn cynnwys ardaloedd ar hyd yr Afon Tees, Mynwent Linthorpe, Bluebell Beck, Coed Mealor a Phentref Stainton gan wella tua 2 hectar arall o ardal ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r prosiect hefyd wedi gwella neu greu: 7 gardd gymunedol, 6 rhandir, 6 pherllan gymunedol ac 8 safle tyfu mewn ysgolion.
Llwyddodd y prosiect i sefydlu Panel Ieuenctid a fynychwyd gan lawer o bobl ifanc drwy gydol y prosiect, gan roi cyfle iddynt leisio eu barn a chreu newid cadarnhaol. Cafodd rhai pobl ifanc a fynychodd y panel gyfle hefyd i fynychu digwyddiadau cenedlaethol, gan roi cyfle iddynt ymweld â Phrosiectau eraill Our Bright Future a rhoi hwb i’w hyder. Mae adroddiad gwerthuso One Planet Pioneers i’w weld yma.