Bu prosiect Our Bright Future Avon a Sir Caerloyw yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau ieuenctid ar draws y ddwy sir a’i nodau oedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a phrofiad ar gyfer cyflogaeth mewn economi wyrddach a gwella mannau gwyrdd i bobl a bywyd gwyllt.
  • Ymgysylltodd mwy na 9,500 o bobl ifanc â’r prosiect drwy sesiynau bywyd gwyllt a gynlluniwyd i wella eu cysylltiad â byd natur
  • Enillodd 439 o bobl ifanc gyfanswm o 1,317 o dystysgrifau Cynllun Gwobrwyo Uned AQA
  • Rhoddodd profiad gwaith a gwirfoddolwyr ifanc fynediad i sgiliau cadwraeth ar warchodfeydd a safleoedd gwyrdd i bobl ifanc
Roedd Our Bright Future Avon a Sir Caerloyw yn cynnwys pobl ifanc o bob oedran drwy amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau, ac mae’r tri blog yma sydd wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc yn rhoi blas ar hyn. Gallwch gael gwybod mwy am ddigwyddiad ‘Bulbtober’ Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerloyw ym mlog Emma, 14 oed, a chael gwybod mwy am ddefnydd o ddŵr ym mlog Rebecca a darllen am brofiad Milly fel intern yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerloyw.
“Rydw i wrth fy modd yn bod yn rhan o fforwm ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Avon gan nad ydw i wedi cael mynediad i rwydwaith mor frwd o bobl sydd â diddordeb mewn cadwraeth / y mudiad gwyrdd o’r blaen. Rydw i hefyd yn mwynhau’n fawr y sgyrsiau gan y gweithwyr proffesiynol a’r bobl fwy profiadol sy’n dod i’r cyfarfodydd ac yn rhannu eu straeon gyda ni, mae hyn yn hynod ysbrydoledig i mi ac wedi fy sbarduno i barhau i anelu i’r cyfeiriad yma. Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn am y potensial i wella fy CV o fod yn y
  • Cyfarfu aelodau’r Cyngor Ieuenctid â Cat Smith AS a Llefarydd y Tŷ Syr Lindsey Hoyle ar bwysigrwydd llais ieuenctid wrth wneud penderfyniadau amgylcheddol
  • Cafodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid sylw ar bodlediad ‘The Green Files’, ymddangos ar BBC North West Tonight, ymddangos ar BBC Radio Manchester (ddwywaith!) ac ymddangos ar BBC Asian Network yn trafod pa mor hanfodol yw byd natur.
Ysgrifennodd Kirstie o’r Cyngor Ieuenctid flog am sut gall natur helpu gyda’n hiechyd meddwl. Ysgrifennodd Caitlin am ei phrofiad o fod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid. Hefyd cafodd y prosiect ymweliad brenhinol, mwy o wybodaeth yma a gwylio’r fideo yma i gael gwybod sut mae’r prosiect wedi cael effaith bositif ar ei gyfranogwyr.       
Gallwch gael gwybod mwy am Our Bright Future Avon a Sir Gaerloyw drwy lawrlwytho adroddiad gwerthuso’r prosiect.