Cynhaliwyd prosiect Putting Down Roots for Young People (PDRYP) rhwng 2016 a 2020 gan St Mungo’s yn Llundain, Bryste a Rhydychen. Gweithiodd y prosiect gyda phobl ifanc a oedd wedi profi digartrefedd, a oedd yn profi digartrefedd neu a oedd mewn mwy o berygl o fod yn ddigartref.
Cafodd 223 o bobl ifanc hyfforddiant garddwriaeth, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau. Dywedodd y bobl ifanc bod ganddynt fwy o hyder o ganlyniad, a’u bod yn teimlo dan lai o straen, llai o unigedd cymdeithasol a mwy o fwynhad o fod y tu allan.
Cafodd 80% o’r bobl ifanc a ymgysylltodd â PDRYP eu cefnogi’n llwyddiannus ar ddiwedd y prosiect i opsiynau symud ymlaen ar gyfer eu camau nesaf, gan gynnwys addysg bellach, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Cymerodd Loren ran yn y prosiect a gallwch ddarllen am ei thaith anhygoel yn ei blog a darllen adroddiad gwerthuso’r prosiect yma.