Roedd prosiect Spaces 4 Change UnLtd yn weithredol rhwng mis Ionawr 2016 a mis Gorffennaf 2021. Elwodd entrepreneuriaid cymdeithasol o ddyfarniad o hyd at £5,000 i sefydlu eu menter oedd yn anelu at wella gofod er budd y gymuned a’r amgylchedd. Cafodd enillwyr y dyfarniad fynediad at gynghorwyr arbenigol, cefnogaeth gan Reolwr Dyfarniadau UnLtd, a chyfleoedd i rwydweithio gyda chymheiriaid.
  • Gwnaeth Spaces 4 Change 83 o ddyfarniadau, yn dod i gyfanswm o £273,725. Mae hwn yn ddyfarniad cyfartalog o £3,297.89
  • Roedd 37% o enillwyr ei ddyfarniadau yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig a 36% o’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yn y wlad
  • Mae’r mentrau a gyllidwyd wedi cefnogi miloedd o fuddiolwyr uniongyrchol a degau ar filoedd o fuddiolwyr anuniongyrchol
O ganlyniad i’r dyfarniad, mae pedwar o bob naw entrepreneur cymdeithasol yn teimlo’n fwy abl i greu, neu wedi cynyddu, eu rhwydweithiau proffesiynol. Nododd entrepreneuriaid cymdeithasol eu bod wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth o ganlyniad i’r dyfarniad. Dywedodd bron pob entrepreneur cymdeithasol eu bod wedi datblygu sgiliau arwain a datrys problemau. Darllenwch fwy am effaith Spaces 4 Change yn ei adroddiad gwerthuso yma.
Sicrhaodd sawl enillydd dyfarniad ddyfarniadau pellach ar ôl Spaces 4 Change i ehangu eu gofod. Enillodd y sefydliad y bu un person ifanc yn gweithio ynddo i ddatblygu ei phrosiect Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol a gwahoddwyd enillwyr dyfarniadau eraill i briodas Dug Sussex i gydnabod eu gwasanaeth i’w cymuned – darllenwch eu stori yma.