Cynyddodd Student Eats argaeledd bwyd cynaliadwy ar gampysau prifysgolion a cholegau drwy sefydlu 65 o fentrau cymdeithasol newydd a werthodd werth mwy na £150,000 o fwyd cynaliadwy.
  • crëwyd 65 o fentrau cymdeithasol newydd
  • gwelwyd mwy na 3000 o bobl ifanc yn datblygu ac yn gwella ystod o sgiliau
  • gwerthodd y mentrau werth mwy na £150,000 o fwyd cynaliadwy
  • gwelwyd y prosiect yn creu, ehangu neu wella 58 o safleoedd tyfu bwyd
  • cafodd 11.5 o dunelli o fwyd dros ben ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi
Bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwerthu cynnyrch roeddent wedi’i dyfu, chwilio am fwyd, gwneud jamiau ac ati o’u cynnyrch eu hunain neu o fwyd a fyddai wedi’i wastraffu fel arall, dysgu coginio prydau bwyd cynaliadwy ac iach, gwella bioamrywiaeth eu safleoedd tyfu a chysylltu â’u cymunedau drwy gyfrannu at elusennau lleol, gwerthu i gwsmeriaid lleol, neu helpu pobl leol mewn angen.
 
“Rydw i wedi dysgu cymaint. Wedi dysgu sut i weithio fel rhan o dîm, a sut i gael pobl eraill i gymryd rhan a chyffroi am brosiectau. Rydw i wedi magu llawer o hyder ac wedi dysgu llawer am siarad cyhoeddus, a hefyd amddiffyn fy safbwynt fy hun.” Myfyriwr gwirfoddol 
 
Fel rhan o waddol y prosiect, datblygwyd ystod o adnoddau ar-lein (ar gael ar wefan SOS-UK) i gynorthwyo myfyrwyr i sefydlu a gweithredu mentrau bwyd cynaliadwy cymdeithasol.
Mae cyfle i gael gwybod mwy am brofiadau pobl ifanc o’r prosiect drwy ddarllen stori Amy a stori Jake. Gallwch hefyd ddarllen adroddiad gwerthuso Student Eats yma.