The Environment NowAnna Maggs2020-04-29T15:48:22+01:00
Cafodd y prosiect The Environment Now ei gynnal gan y National Youth Agency mewn cydweithrediad â Go Think Big yr O2, a chafodd ei gynnal rhwng mis Ionawr 2016 a mis Rhagfyr 2018. Darparodd The Environment Now gefnogaeth, hyfforddiant a grantiau cyllido o hyd at £10,000 i 50 o bobl ifanc 17 i 24 oed er mwyn creu syniadau digidol unigryw i helpu’r amgylchedd.
Llwyddodd The Environment Now i alluogi i 50 o entrepreneuriaid ifanc ddatblygu a gwneud cynnydd gyda’u prosiect neu fusnes newydd digidol unigryw, gan siarad am faterion amgylcheddol penodol. Cawsant gefnogaeth drwy fentora a chyfleoedd hyfforddi, ochr yn ochr â sesiynau ‘Thinkspiration’ oedd yn gyfle iddynt gyfarfod entrepreneuriaid ifanc eraill i drafod eu pryderon amgylcheddol.
Cymerodd Ravi ran ym mhrosiect The Environment Now a gallwch ddarllen ei stori yma.
Rhyddhaodd y National Youth Agency ei adroddiad gwerthuso ar gyfer y prosiect a gallwch ei ddarllen yma, a hefyd mae mwy o wybodaeth ar gael am y mentrau a sefydlodd y bobl ifanc fel rhan o’r prosiect ar wefan y NYA yma.
Beth oedd y 50 prosiect a ddatblygwyd gan The Environment Now?
A Map to Breathe gan Ishan Khurana (Mesur ansawdd aer mewn tai incwm isel gydag awyru gwael)
Acelerongan David Dawood (Creu banciau pŵer gyda phorth USB)
Breathing Space gan Omar Durrani (Adrodd ar lygredd aer mewn ardaloedd preswyl)
AQUAgan Harrison Kees (Monitro ansawdd aer tu allan i ysgolion uwchradd Caerefrog)
Auxin gan Mohammed Alhadi (Clawr ffôn ac ap sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy i bweru ffôn)
Bare Technologies gan Ethan Howard (Ailbwrpasu gliniaduron ar gyfer defnyddwyr heb unrhyw brofiad o gyfrifiaduron)
BlakBeargan Michael Kasimatis (Synhwyrau llygredd cost isel seiliedig ar bapur)
Blue Tap gan Thomas Stakes (Puro dŵr mewn cartrefi)
Carbon Watchgan Hana Mandova (Ap i gynghori ar ddwysedd allyriadau defnydd o drydan gan ddibynnu ar amser y defnydd)
ChargedUpgan Hakeem Buge (Rhwydwaith o fanciau batri symudol i’w benthyca)
Climate Edge gan James Alden (Gorsafoedd tywydd digidol i ffermwyr yn Ne America ac Affrica)
Cutting Edge Conservation gan Beth Lonsdale (Defnyddio cyfryngau digidol i ehangu’r dysgu am gadwraeth)
Enviro: Small Steps for Big Change gan Robyn Bryne (Lleihau gwastraff ar gampws drwy werthu a chyfnewid)
Filamentivegan Ravi Toor (Ffilamentau peiriannau argraffu 3D wedi’u hailgylchu)
Fruutea gan Joel Gujral (Defnyddwyr yn creu eu te ffrwythau eu hunain gan ddefnyddio technoleg ddigidol)
Give, Sell, Hire.com gan Irvin Kiari (Ap ailddefnyddio, cyfrannu a llogi i leihau taflu sbwriel yn anghyfreithlon)