Roedd Vision England yn cael ei weithredu gan Sense a’i gyflwyno mewn partneriaeth â’r Cyngor Astudiaethau Maes a grwpiau lleol. Ymgysylltodd â mwy na 300 o bobl ifanc 11 i 24 oed ag angen ychwanegol neu anabledd. Roedd y prosiect yn cynnig digwyddiadau dydd, preswyl, gweithdai (ar-lein ac wyneb yn wyneb) a phrosiectau cymunedol i wella mannau gwyrdd lleol. Roedd y gweithgareddau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion pob grŵp.
Yn Nwyrain Llundain, roedd grŵp eisiau dysgu mwy am natur a theithio y tu allan i Lundain. Trefnodd Sense daith ar gwch camlas yn Essex gyda dau aelod o’r Cyngor Astudiaethau Maes i hwyluso gweithgareddau seiliedig ar natur tra ar y cwch: dysgu am y camlesi a sut maent yn gweithio ac yn gweithredu, adar, byd natur o’u cwmpas. Roedd hyn yn llwyddiant mawr, ac roedd y criw wrth eu bodd o fod wedi teithio y tu allan i Lundain fel grŵp heb rieni – sef y tro cyntaf i lawer o’r bobl ifanc oedd yn mynychu.
Roedd grŵp ieuenctid yn Sandwell eisiau troi eu gardd yn ofod y gallent ei ddefnyddio gan ei bod wedi tyfu’n wyllt. Drwy Vision England, cliriwyd yr ardd a chynlluniodd y bobl ifanc beth yn union yr oeddent eisiau i’r ardd gael ei defnyddio ar ei gyfer. Gan weithio ar sgiliau annibyniaeth, aethant ati i ysgrifennu rhestrau o’r hyn roedd angen iddyn nhw ei brynu a phrisio’r eitemau a’r offer yn unol â’r gyllideb a roddwyd. Aethant allan yn ystod y sesiwn canlynol i brynu’r eitemau hyn. Dysgodd y grŵp sut i gloddio’n ddiogel, plannu’n llwyddiannus yn ogystal ag ôl-ofal a chynnal a chadw gardd. Ychwanegodd y bobl ifanc feinciau a phwll tân at yr ardd i’w gwneud yn ofod amlbwrpas a deniadol.
Gall cyfnodau preswyl chwarae rhan mor bwysig i bobl ifanc fel y garreg gamu gyntaf at annibyniaeth a bu’r prosiect yn dyst i lawer o hyn. Yn y sesiynau preswyl, cymerodd yr holl gyfranogwyr ran mewn taith gerdded yn ogystal â gweithgaredd cadwraeth, sef y tro cyntaf i lawer ohonynt wneud unrhyw beth felly.
Roedd y ffurflenni adborth ar ddiwedd y prosiect yn nodi’r canlynol:
  • Dywedodd 80% o’r bobl ifanc eu bod yn poeni mwy am yr amgylchedd
  • Dywedodd 94% o’r bobl ifanc eu bod wedi mwynhau eu sesiynau
  • Dywedodd 78% o’r bobl ifanc eu bod yn gwybod sut i helpu byd natur yn fwy ar ôl eu sesiynau
  • Dywedodd 84% eu bod yn teimlo’n agosach at bobl eraill yn eu grŵp yn ystod ac ar ôl y sesiynau
Drwy brosiectau cymunedol, mae mannau gwyrdd wedi cael eu gwella a’u gwneud yn fwy hygyrch. Yng ngholegau Sense, aeth pobl ifanc ati i greu llwybrau newydd, plannu ardaloedd o lysiau a pherlysiau, ac adeiladu gwestai pryfed a gwelyau plannu. Roedd prosiect ysgol yn canolbwyntio llawer ar adar: adnabod adar wrth eu gweld ac wrth glywed eu cân a hefyd creu ac addurno bocsys a theclynnau bwydo adar.
Mae adroddiad gwerthuso Vision England i’w weld yma.