Canolbwyntiodd Croeso i’r Economi Werdd gan Groundwork Llundain ar dair elfen o waith ryng-gysylltiedig:
  • Ffenestr i’r Economi Werdd: Ymgysylltu â mwy na 1,800 o bobl ifanc ar draws ysgolion uwchradd Llundain. Eu cefnogi i gwblhau archwiliadau amgylcheddol ysgolion sy’n cwmpasu ynni, dŵr, gwastraff, tirwedd. Allosod canlyniadau archwiliadau i ddangos beth fyddai ei angen i fynd i’r afael â’r gwaith yma ar raddfa genedlaethol – gan ddangos yn ymarferol ystod a nifer y swyddi sydd ar gael yn yr economi werdd
  • Croeso i’r Economi Werdd: Recriwtio 166 o bobl ifanc ar raglenni hyfforddiant a phrofiad gwaith sy’n cynnig y sgiliau a’r profiad sydd arnynt eu hangen i gael mynediad at swyddi gwag yn yr economi werdd
  • Gwaith i’r Economi Werdd: Creu swyddi a phrentisiaethau wedi’u neilltuo ar gyfer 133 o bobl ifanc oedd bellaf o’r farchnad lafur. Rhoi o leiaf chwe mis o gyflogaeth a hyfforddiant â thâl i bob un ohonynt i baratoi ar gyfer swyddi a phrentisiaethau yn yr economi werdd
Gweithiodd y tîm yn agos gydag ysgolion i gynllunio gweithdai a gwersi a oedd yn ddiddorol ac yn ddymunol. Drwy gysylltu ei waith ysgolion ag addysgeg STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), roedd y tîm yn gallu cael mynediad at ddisgyblion ysgol, oherwydd bod gan athrawon ac uwch arweinwyr ddiddordeb mewn STEM. Cynhaliodd Groundwork Llundain banel athrawon ac ymgynghorwyd ag athrawon cyn ac yn ystod y gwaith o gynllunio’r gweithdy. Roedd y dull cydgynhyrchu hwn yn golygu bod adnoddau’n cael eu dylunio gan ysgolion, ar gyfer ysgolion, gan greu mwy o effaith ar bobl ifanc.
O’r 166 o bobl ifanc oedd yn rhan o elfen Croeso i’r Economi Werdd y prosiect, aeth 45% ymlaen i gyflogaeth
O’r 133 o bobl ifanc oedd yn rhan o elfen Gweithio i’r Economi Werdd y prosiect, aeth 42% ymlaen i gyflogaeth ar ôl eu lleoliad.
Meddai un person ifanc
 “Mae Our Bright Future wedi codi fy ymwybyddiaeth i o swyddi gwyrdd ac fe gefais i gyfle i’w gweld nhw yn uniongyrchol. Mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o faterion amgylcheddol, o dyfu fy mhlanhigion fy hun i Feddygon Gwyrdd sy’n helpu pobl i arbed ynni.”
 
Tua diwedd ei lleoliad roedd y person ifanc yma’n rhagweithiol iawn wrth ymgeisio am swyddi a llwyddodd i sicrhau rôl gyda Groundwork Llundain. Dywedodd:
“Rydw i’n gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a’r penderfyniad i fy helpu i. Ni fyddwn i wedi bod mor llwyddiannus ag yr ydw i heddiw heb raglen OBF.”
Hefyd cyflawnodd y prosiect y canlynol:
  • dargyfeirio 626,533 kg o wastraff o safleoedd tirlenwi
  • arbed 2,456 tunnell o CO2
  • gwella neu gynnal mwy na 970,000 metr sgwâr o dir mewn amrywiaeth o fannau cyhoeddus, parciau a stadau tai
Cwblhaodd Andres leoliad yn Groundwork Llundain, gallwch ddarllen y blog a ysgrifennodd am ei siwrnai. Gallwch hefyd ddarllen am brofiadau Keanu, Farhana ac Emile gyda’r prosiect. Eisiau cael gwybod mwy? Darllenwch adroddiad gwerthuso’r prosiect.