Your Shore Beach RangersAnna Maggs2021-05-05T13:04:35+01:00
Cynhaliwyd Your Shore Beach Rangers Ymddiriedolaeth Natur Cernyw rhwng 2016 a mis Mawrth 2021. Roedd pobl ifanc yn cael eu cefnogi a’u hyfforddi mewn materion amgylchedd morol, technegau arolygu yn ogystal â chynllunio, ymgysylltu â’r gymuned, dylanwadu ac ymgyrchu.
Roedd 9,716 o blant ysgol 11 i 16 oed yn rhan o’r prosiect
Cwblhaodd 666 o bobl ifanc hyfforddiant y Beach Rangers Academy
Sefydlwyd pum Grŵp Morol newydd
Casglwyd 141,000 kg o sbwriel drwy lanhau traethau
Dysgodd 68 o bobl ifanc sgiliau dylanwadu ar bolisi ac ymgyrchu
Gallwch ddarllen blog Jodie yma, blog Adele yma a stori Emily yma. Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am lwyddiant y prosiect hwn, edrychwch ar yr adroddiad gwerthuso yma.
Gallwch gymryd rhan o hyd ac elwa o’r prosiect er ei fod wedi’i gwblhau.
Os ydych chi’n byw yng Nghernyw, gallech ymuno â grŵp lleol Rhwydwaith Your Shore. Chwiliwch am eich grŵp lleol yma.