Fe wnaeth y prosiect Youth in Nature alluogi pobl ifanc 11 i 24 oed o ardal Hull i ymwneud â bywyd gwyllt a’r amgylchedd; gan eu helpu i ysbrydoli pobl a galluogi cadwraeth yn eu cymunedau, ynghyd â’u cefnogi i ennill sgiliau newydd sy’n berthnasol i ddod o hyd i swyddi.
  • Cafodd 2,943 o bobl ifanc wybod am y prosiect drwy sioeau teithiol a digwyddiadau
  • 801 o bobl ifanc wedi gwella eu cyfleoedd bywyd drwy gynyddu eu rhagolygon cyflogadwyedd, eu gwybodaeth a’u sgiliau yn ystod oes y prosiect
  • Dynodwyd 96 o bobl ifanc yn ddinasyddion gweithredol gan gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau dylanwadu a gwirfoddoli yn eu cymunedau
  • Enillodd 176 o bobl ifanc o leiaf un achrediad
  • Cafodd 29 parth bywyd gwyllt eu creu neu eu gwella yn ystod oes y prosiect. Mae’r rhain yn cynnwys cymysgedd o diroedd ysgolion, canolfannau cymunedol ac ieuenctid, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, rhandiroedd a gofod amgylcheddol adeiledig ledled y ddinas
Gweithiodd y prosiect gyda rhai o’r bobl ifanc fwyaf difreintiedig, a rhoddodd sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau iddynt a gafodd effaith gadarnhaol ar eu hyder, eu hunan-barch a’u hiechyd meddwl, yn ogystal ag ysbrydoli eu dealltwriaeth o werth yr amgylchedd.
‘Fe wnaeth Youth in Nature helpu i leddfu unrhyw straen neu emosiynau eraill hefyd ac mae wedi fy nysgu bod mynd allan a mwynhau byd natur yn ffordd wych o ddelio ag iechyd meddwl gwael ac mae’n rhoi cyfle i rywun ymlacio ac adfywio ei feddwl’. Cyfranogwr Youth in Nature  
Cafodd llawer o bobl ifanc y prosiect ffrindiau newydd am oes, atgofion am byth ac fe wnaethant elwa o’r llu o dripiau awyr agored a phreswyl a ddarparwyd ganddo.
Gallwch gael gwybod mwy am Youth in Nature drwy lawrlwytho adroddiad gwerthuso’r prosiect.
2 Probe (10)
Youth In Nature Project Page
Probe Youth In Nature