Fe gafodd Sam ei fagu drws nesaf i dŵr Blackpool, gan fynychu ysgol iau ac ysgol uwchradd yn Blackpool.

Mae’n cofio gobeithio gwneud “rhywbeth gyda bywyd gwyllt” yn ystod ei flynyddoedd iau, ac mae ganddo atgofion melys am gwrdd ag ecolegydd o’r enw Pauline a oedd yn gweithio yn Groundwork UK ac a fyddai’n mynd ymlaen i gael dylanwad mawr ar fywyd cynnar Sam: “Fe wnes i edrych ar y swydd honno a meddwl, ‘Ydi, mae’n swnio fel fi.’” Dyma pryd dechreuodd Sam wirfoddoli gyda phrosiectau’n ymwneud â bywyd gwyllt a natur a ddatblygodd yn gyflym i fod yn angerdd: “Roeddwn i’n meddwl, ‘Ydw, rydw i’n caru hyn. Rydw i am wneud mwy o hyn’”.

Yn gyffredinol, mae Sam yn cofio cael amser da yn yr ysgol er ei fod yn cael trafferth ar adegau gyda’i ddyslecsia, gan nodi “ei bod yn anodd cael y cymorth roeddwn i ei angen hefyd pan [oedd] yn iau”. Pan oedd Sam yn bedair ar ddeg oed, dechreuodd ymwneud â phrosiect ‘Green Leaders’ Groundwork UK.

“Roeddwn i’n blentyn eithaf swil pan oeddwn i’n ifanc. Doeddwn i ddim yn siarad llawer, felly fe ddaeth â fi allan o fy nghragen yn sicr, ac fe wnes i ddysgu trafod.”

Fe roddodd y prosiect le diogel a hygyrch i Sam ddatblygu ei sgiliau arwain mewn amgylchedd dysgu amgen a fyddai, yn y pen draw, yn ei weld yn ennill cymhwyster cyfatebol i TGAU. Tra oedd gyda’r Green Leaders, fe gymerodd Sam ran mewn gweithgareddau grŵp gyda phobl ifanc eraill i feithrin ei sgiliau ymchwil. Dysgodd hefyd sut i drafod a siarad gyda phobl i gyfathrebu ei syniadau yn well. Fe gwblhaodd Sam lefel 1 a lefel 2 y Green Leaders, gan arwain digwyddiad i annog plant i blannu melyn Mair a mynd â nhw adref i gefnogi amgylchedd ar gyfer gwenyn yn yr ardal leol. Roedd yn gallu dysgu’r cyfranogwyr ifanc a’u gwarcheidwaid am wahanol wenyn a phymtheg o flodau maen nhw’n eu hoffi a pheryglon neonicotinoidau. Fe roddodd y profiad yma brofiad i Sam ac, yn hollbwysig, yr hyder i allu cynnal mwy o ddigwyddiadau ymgysylltu ac addysg yn y dyfodol.

“Nawr fe allwn i gynllunio digwyddiad yn y brifysgol mae’n debyg, pe bawn i eisiau, yn eithaf hawdd, gan fod gen i’r profiad hwnnw.”

Arweiniodd profiad cadarnhaol Sam gyda Green Leaders at fynd ymlaen i gymryd rhan mewn prosiect ieuenctid amgylcheddol arall, Future Proof Parks, gydag ef yn gwirfoddoli ar Lwybr Pyllau Gogledd Blackpool ac mae Sam yn cofio gwirfoddoli o dan y Gronfa Her Adferiad Gwyrdd, a noddwyd gan y llywodraeth i gynnal a chadw parciau.

Sicrhaodd Sam le ym Mhrifysgol Nottingham Trent ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer ei radd mewn Ecoleg a Chadwraeth ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Cadwraeth. Mae Sam yn teimlo bod ei brofiad gydag Our Bright Future a’i wirfoddoli wedi ei alluogi i feithrin sgiliau sy’n “ei wneud yn unigryw” yn y Brifysgol ac yn y farchnad swyddi: “Mae wedi siapio fy nysgu i ac wedi siapio’r hyn y gallaf ei wneud, ac mae wedi bod o help mawr i mi”.

Mae Sam yn cydnabod effaith gadarnhaol ei amser gyda’r prosiect, nid yn unig ar ei sgiliau a’i hyder, ond hefyd ar ei les cyffredinol, gan nodi “mae wedi gwella fy sgiliau arwain i yn aruthrol. A gyda hynny, mae wedi gwella fy lles i oherwydd rydw i’n gallu cyfathrebu’n well nawr. Felly mae hynny’n golygu bod gen i well cyfeillgarwch, a dweud y gwir. Ffrindiau agosach. Rydw i’n gallu dod ymlaen gyda phobl yn eithaf da oherwydd hynny, ac mae hyn i gyd yn cyfrannu at fy lles i.”

“Fe ddangosodd bwysigrwydd cymuned i mi mewn ffordd dda iawn a dweud y gwir.”

Roedd ei brofiadau hefyd yn gyfle i Sam ddatblygu gwybodaeth am fywyd proffesiynol a heriau, a deall mwy am waith elusen a’r sector amgylcheddol ei hun, gan ddatblygu a deall pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth, ac ymgysylltu ac addysgu gwahanol gymunedau am faterion cadwraeth. Mae Sam yn angerddol am warchod mannau gwyrdd er budd bywyd gwyllt a’r hil ddynol a’r blaned. Mae’n deall bod hon yn dasg enfawr ac mae’n cael ei ysbrydoli gan y pŵer y gall cymunedau ei gael o gael yr adnoddau a’r gefnogaeth i eiriol dros eu hamgylcheddau lleol: “Llefydd gwyrdd fel arfer – dyma’r llefydd cyntaf i gael toriadau. Maen nhw hefyd yn dueddol o wynebu datblygiad, oherwydd dyna lle mae’r mwyaf o arian. Sy’n golygu bod llefydd gwyrdd yn erydu … Mae cyllid yn beth gwych, ond mae arnoch chi angen pobl hefyd. Rydych chi angen pobl yn y gymuned i ddweud, “O, fe af i…” Hyd yn oed os yw’n awr y mis, mae cael ugain neu ddeg ar hugain o bobl sy’n angerddol am y peth ac eisiau ei wneud yn dda a dod allan yn lled-reolaidd yn well na phobl yn gwneud dim.”