Fe gymerodd Sofia ran yn y rhaglen Creative Pathways gydag Impact Arts yn Glasgow. Mae’r prosiect yma wedi bod yn rhan hynod ddylanwadol o’i bywyd hi. Fe roddodd gyfle iddi fynegi ei phrofiadau a’i gwaith yn greadigol fel rhan o dîm. Fe rannodd ei bod yn dioddef o orbryder difrifol ac roedd hyn yn gwneud yr ysgol yn anodd iawn iddi. “Doeddwn i ddim yn gallu graddio mewn gwirionedd oherwydd bod fy iechyd meddwl i wedi dirywio mor wael fel nad oeddwn i’n gallu gorffen, ac nid oherwydd diffyg ymdrech”. Fe effeithiodd yr heriau personol yma ar y ffordd yr oedd hi’n gweld y byd a’r dyfodol y gallai ei gael.

“Roeddwn i bob amser yn hoffi ysgrifennu, dyna beth rydw i wrth fy modd yn ei wneud.”

Fe newidiodd cymryd rhan yn Creative Pathways ei gweledigaeth ar gyfer ei dyfodol, meddai. “Roeddwn i bob amser yn hoffi ysgrifennu, dyna beth rydw i wrth fy modd yn ei wneud, ac fe ddatblygodd y syniad yma, “Rydw i eisiau dysgu sut i wneud ffilmiau,” math o beth, oherwydd ein bod ni wedi mynd a gwneud y prosiect ymchwil yma ac roedd hynny oherwydd bod ein prosiect terfynol ni fel arddangosfa oriel.” Roedd y gefnogaeth a’r sgiliau a gafodd drwy’r prosiect yn gyfle iddi sylweddoli ei hangerdd a chael profiad, “Fe gefais i’r holl gyfleoedd gwahanol yma yn deillio o’r ffaith i mi wneud Creative Pathways.”

Roedd yr arddangosfa gelf yr oedd hi’n cydweithio arni yn canolbwyntio ar y berthynas gyda’r amgylchedd a defnydd dyn ohono. “Fe wnaethon ni fowldio plastr, ond gan ddefnyddio cwpanau papur a sbwriel oedden ni’n ei daflu, a’u harddangos nhw. Roedd yn hynod, hynod ddiddorol, gwneud rhywbeth sydd mor ddrwg i’r amgylchedd ac mor dros dro yn rhywbeth eithaf parhaol”. Mae ei hamser ar y rhaglen wedi newid y ffordd y mae’n ymgysylltu â’r amgylchedd yn aruthrol ac fe roddodd “fwy o werthfawrogiad iddi o … yr hyn y gall pethau bach ym myd natur ei wneud i chi”. Mae bod yn ymwybodol o’r amgylchedd yn parhau i effeithio ar ei bywyd bob dydd a’i harfer fel gwneuthurwr ffilmiau. Disgrifia sut mae hi nawr yn ceisio bod yn amgylcheddol ymwybodol gyda’i chelf, fel defnyddio ffyrdd ecogyfeillgar o ddatblygu ffilmiau, yn lle cemegau niweidiol.

 “Fe gefais i’r holl gyfleoedd gwahanol yma yn deillio o’r ffaith i mi wneud Creative Pathways.”

Roedd profiad Sofia gyda Creative Pathways yn un hynod gadarnhaol, yn y cyfweliad fe rannodd hi “mae rhyw fath o hud yn yr hyn maen nhw’n ei wneud”. Drwy hyn mae’n golygu bod y sgiliau, yr hyder a’r profiad maen nhw’n eu cynnig i bobl ifanc yn amhrisiadwy. Mae’n disgrifio sut cafodd ei hyder a’i sgiliau arwain eu gwella o gymryd rhan yn y rhaglen, “mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi, roeddwn i’n gallu dechrau gwneud mwy o brosiectau gwahanol a gwthio fy hun. Mae cael y profiad hwnnw a chael y gefnogaeth honno yn bendant wedi galluogi i mi ei rannu ag eraill”.

“Mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi, roeddwn i’n gallu dechrau gwneud mwy o brosiectau gwahanol a gwthio fy hun.”

Mae ganddi berthynas gref â Creative Pathways o hyd a hi yw’r aelod ieuengaf ar fwrdd Impact Arts. “Rydw i’n rhan o Fwrdd Impact Arts nawr, fel y swyddog – rydw i’n gwybod, mae’n gwbl wallgof”. Yn y rôl yma mae hi’n eiriol dros bobl ifanc eraill sydd ar y cyrion i ddod o hyd i fwy o gynrychiolaeth yn sector y celfyddydau a’r amgylchedd. “Fel rhan o’r Bwrdd, rydw i’n bendant yn hyrwyddo mwy o amrywiaeth”. Mae’r gefnogaeth gafodd hi gan y tîm yn Creative Pathways wedi helpu i ennill graddau A iddi yn ei Diploma Cenedlaethol Uwch. Nawr mae hi’n astudio i fod yn wneuthurwr ffilmiau ym Mhrifysgol Napier Caeredin. “Mae’r ffaith ’mod i hyd yn oed mewn prifysgol ar ôl dod o’r ysgol uwchradd heb ddim byd heblaw Nat 5s yn beth mawr iawn i mi”