“Dydw i byth yn mynd i anghofio’r prosiect a beth mae wedi ei wneud i mi.”

Cefndir

Cafodd Thomas ei fagu yn Hull yn Nwyrain Sir Efrog. Mae’n cofio ei fagwraeth fel un deuluol hapus, roedd yn aelod o’r Boys Brigade lleol ac, yn ystod ei arddegau, roedd eisiau astudio i fod yn bensaer. Er gwaethaf ei fywyd braf gartref, mae Tom yn nodi bod y ffaith bod ganddo’r cyflwr niwrowahanol wedi gwneud ei brofiad yn yr ysgol yn anodd. Mae Tom yn cofio teimlo nad oedd yn cael cefnogaeth yn yr ysgol, a oedd yn golygu ei fod yn cael trafferth gwneud ffrindiau a rhyngweithio â’i grŵp o gyfoedion, gan nodi “Dydw i erioed wedi bod mor annibynnol â phlant eraill fy oedran i mewn gwirionedd”.

Cymerodd Tom ran yn y prosiect ‘Youth in Nature’ a ariannwyd gan Our Bright Future dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog a’r sefydliad ieuenctid Child Dynamix. Ochr yn ochr â phobl ifanc eraill, roedd Tom yn gallu cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol wyneb yn wyneb, gan gynnwys trin rhandir cymunedol, plannu blodau gwyllt, ymgysylltu â’r cyhoedd a chymryd rhan mewn digwyddiadau glanhau traeth. Nododd Tom fod y prosiect wedi cefnogi ei ddatblygiad wrth baratoi ar gyfer byd gwaith a’r byd ehangach, gan gofio am ei gyfnod ar y prosiect fel amser a roddodd “gyfle iddo gymdeithasu â phobl eraill yr un oed â fi ac yr oeddwn yn cyd-dynnu’n dda â nhw.” Roedd y rhyngweithio hwn â gwahanol bobl, ei gyfoedion a chydgysylltwyr y prosiect, yn hwb enfawr i’w hyder a’i sgiliau rhyngbersonol mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol. Yn benodol, mae’n cofio mynd i un o gynadleddau Our Bright Future, gan nodi ei fod yn “wahanol i bethau [roedd ef] wedi’u gwneud o’r blaen oherwydd ei fod yn amgylchedd proffesiynol iawn. Ond roedd hynny’n bendant yn ddiddorol ac oherwydd faint o bobl oedd yno fe roddodd hwb mawr i fy hyder”. Yn y pen draw, arweiniodd yr hyder newydd yma at Tom yn dod yn rhan o Grŵp Llywio’r prosiect ochr yn ochr â phobl ifanc eraill o bob rhan o is-grwpiau prosiectau.

“Fe roddodd hwb mawr i fy hyder i achos fe wnes i gwrdd â llawer o bobl newydd.”

Beth wnaeth Tom wedyn

Roedd siwrnai Tom gyda’r prosiect yn drawsnewidiol – fe ddechreuodd y prosiect fel rhywbeth ychwanegol i lenwi ei amser, ond gadawodd y prosiect wedi gwireddu’r angerdd a’r cymhelliant oedd ganddo dros y byd naturiol: “pan ddechreuais i doeddwn i ddim wedi ystyried dyfodol ym maes yr amgylchedd a dim ond ar ôl gwneud y cwrs Youth in Nature wnes i ddechrau ystyried hynny “. Yn sgil yr angerdd yma, yn ogystal â magu mwy o hyder, ei sgiliau a’i hapusrwydd, fe benderfynodd Tom wneud cais i’r coleg i ddilyn y diddordeb yr oedd wedi’i ddatblygu ym myd natur a’r amgylchedd gyda chwrs rheoli cefn gwlad.

Mae Tom wedi parhau i hyrwyddo’r amgylchedd mewn grwpiau a chymunedau eraill y mae wedi dod yn rhan ohonynt, gan gynnwys trafod newid hinsawdd ac effaith llygredd dŵr ar ei ddinas mewn grwpiau ieuenctid eraill ar draws Hull. Mae’n parhau i ymgymryd â chyfleoedd i ddatblygu ei hyder, gan nodi “Fe fyddwn i wrth fy modd yn gallu gwneud rhyw newid ystyrlon, go iawn… rhywbeth sy’n ysbrydoli pobl eraill.”

“Roeddwn i wedi penderfynu mynd i’r coleg a dilyn y diddordeb yma ym myd natur go iawn. A dyna beth sydd wedi fy arwain i at lle rydw i nawr.”

Yr Amgylchedd

Mae Tom yn sôn am ei amser gyda Youth in Nature fel yr hyn wnaeth ganiatáu iddo ddeall yr amgylchedd a materion gwahanol o’i gwmpas yn iawn. Fe roddodd y prosiect gyfle iddo archwilio ei berthynas â byd natur a sylweddoli’r arwyddocâd yr oedd am iddo ei gael yn ei fywyd a’i yrfa ei hun. Mae Tom wedi datblygu diddordebau penodol o fewn y sector gwyrdd, fel angerdd dros gynefinoedd anifeiliaid a choetiroedd yn arbennig. Ar ôl cwblhau ei gwrs coleg yn llwyddiannus, fe ddechreuodd Tom astudio ar gyfer ei Radd Sylfaen mewn Rheoli Bywyd Gwyllt a Chadwraeth yn ddiweddar. Mae’n edrych ymlaen at y dyfodol ac yn gobeithio gweld ei hun yn gweithio yn y sector amgylcheddol lleol, gan rannu “Rydw i wir eisiau gweithio i Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog neu’r RSPB neu rywle felly.”

Mae Tom bellach yn teimlo bod ganddo’r grym i adeiladu dyfodol lle gall rannu ei wybodaeth a’i angerdd am yr amgylchedd mewn ffordd a allai ysbrydoli pobl eraill, “naill ai drwy weithio’n uniongyrchol gyda rhywogaethau neu efallai drwy addysgu grwpiau ysgol ac ati”.