“Mae wedi ehangu fy ngwybodaeth i, fy hyder ac yn gyffredinol wedi rhoi cipolwg i mi ar gyfleoedd eraill a rhwydweithio gwych.”
Roedd y Fforwm Ieuenctid yn gymuned o bobl ifanc debyg sydd â diddordeb mewn byd natur a’r amgylchedd. Roedd yn ofod agored a chynhwysol i bobl ifanc archwilio a datblygu eu hangerdd a’u diddordebau. Fe gafodd y bobl ifanc gyfle i leisio eu barn, creu, cyflwyno ac arwain ar ddatblygiad eu gofod.
Roedd pobl ifanc o bob un o’r 31 o brosiectau Our Bright Future yn ffurfio’r Fforwm Ieuenctid yn wreiddiol, ond yn ddiweddarach wrth i brosiectau gael eu cwblhau, roedd unrhyw berson ifanc 13 i 24 oed nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â phrosiect yn gallu ymuno. Roedd yn gyfle i bobl ifanc ennill sgiliau, gwella eu CV a chysylltu â phobl ifanc eraill.
Roedd aelodau’r Fforwm Ieuenctid yn gallu dylanwadu ar bolisi, ymddygiad ac ymwybyddiaeth drwy ymgysylltu â gwleidyddion, pobl sy’n gwneud penderfyniadau, arweinwyr busnes, sefydliadau amgylcheddol a phobl ifanc eraill.
“Fe wnes i araith o flaen 100 o bobl – yr adeg yma y llynedd ’fyddwn i ddim wedi sefyll ar fy nhraed o flaen yr ystafell heb sôn am siarad!”
“Rydw i’n meddwl fy mod i’n dysgu mwy o sgiliau yn gyson am sut i siarad â phobl ifanc a chael trafodaethau. Rydw i’n meddwl fy mod i’n datblygu’n barhaus. Dydw i ddim yn meddwl y bydda’ i byth yn stopio ac rydw i’n mynd i ddod o hyd i fwy a mwy o bethau i’w gwneud a mwy a mwy o bethau i’w harchwilio gydag Our Bright Future.”
Fe allwch chi gael gwybod mwy am y Fforwm Ieuenctid a beth roedd yn ei olygu i’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan yn y blog yma.