Lisa
Roedd Lisa wedi bod yn chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu ei sgiliau a fyddai’n ategu ei brwdfrydedd dros yr amgylchedd. Argymhellodd cydweithiwr ei bod yn edrych ar Raglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol UpRising. Meddai Lisa, “Mae’r rhaglen wedi rhoi cyfleoedd i mi na allwn i fyth fod wedi’u dychmygu!” Cynyddodd ei hymwybyddiaeth o weithredu cymdeithasol, sut i greu newid, ac fe’i cyflwynwyd i lawer o bobl ysbrydoledig sydd ar flaen y gad mewn newid amgylcheddol.
Hefyd cynrychiolodd Lisa UpRising yn Fforwm Ieuenctid Our Bright Future a seminar yr holl brosiectau. Cyn bod yn rhan o’r rhaglen, nid oedd Lisa’n gyfforddus iawn yn siarad o flaen grwpiau mawr o bobl ac nid oedd byth yn meddwl y byddai’n siarad mewn ystafell o flaen mwy na 100 o bobl, sy’n rhywbeth a wnaeth yn seminar Our Bright Future yn Belfast.
Eglurodd Lisa: “Mae’n rhyfeddol teimlo bod gan bobl ifanc lais a bod pobl eraill yn barod i wrando. Mae UpRising wedi rhoi mwy o hyder i mi yn fy ngallu drwy roi profiadau a sgiliau newydd i mi. Dydw i ddim yn gwybod sut bydd UpRising yn effeithio arnaf i’n uniongyrchol yn y dyfodol, ond rydw i’n gwybod y bydd ehangder y cyfleoedd rydw i wedi’u cael yn newid y ffordd rydw i’n delio â heriau.”
Mae mwy o wybodaeth am y Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol ar gael yma a darllenwch fwy am seminar yr holl brosiectau yn Belfast yma.