Roedd y prosiect Creu Cymunedau Cynaliadwy yn Abertawe yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc 17 i 24 oed ddatblygu eu hunain a’u cymunedau a’u hamgylchedd lleol drwy raglenni hyfforddi adeiladu cynaliadwy. Cefnogodd y prosiect bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau eu hunain a’u paratoi ar gyfer yr economi werdd drwy raglenni hyfforddi achrededig mewn adeiladu cynaliadwy ac, ar yr un pryd, adeiladu eu seilwaith cymunedol cynaliadwy eu hunain.
  • Cafodd mwy na 750 o bobl ifanc y prosiect gyfleoedd a phrofiadau hyfforddi
  • Llwyddodd 495 o Bobl Ifanc i sicrhau achrediad Agored Cymru
  • roedd mynychu’r rhaglen wedi cynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith o leiaf 75% o’r cyfranogwyr
  • Cwblhaodd y bobl ifanc 11 o brosiectau adeiladau cymunedol adferol di-garbon / eco
“Y darn gorau o’r prosiect yma, yr hyder maen nhw wedi’i roi i mi. Rhoi cynnig ar bethau newydd, dysgu sut i ddefnyddio offer nad ydw i wedi’i ddefnyddio o’r blaen, a chwrdd â’r bois yma yn y grŵp. Rydw i wedi mwynhau bob dim.” – cyfranogwr Tach 2020
Ers cwblhau eu hamser fel rhan o’r prosiect, mae 61 o bobl ifanc wedi symud i gyflogaeth llawn amser, mae 13 yn gwirfoddoli’n rheolaidd yn eu cymuned ac mae 63 wedi dechrau addysg bellach neu hyfforddiant.
Cafwyd uchafbwyntiau eraill, gan gynnwys partneriaeth y prosiect gyda’r BBC wrth ffilmio grŵp o Bobl Ifanc fel rhan o’r prosiect am naw mis a chynhyrchu pennod ar gyfer y gyfres deledu, “This is my Life”, o’r enw “Build Me Up”.
Gallwch gael gwybod mwy am Creu Cymunedau Cynaliadwy drwy lawrlwytho adroddiad gwerthuso’r prosiect.
Down To Earth Project Page
Down To Earth Project Page