Nod Ein Glannau Gwyllt oedd gwella bywydau pobl ifanc yng Ngogledd Cymru drwy eu dealltwriaeth o amgylcheddau a chymunedau arfordirol a gwelliannau iddynt. Cynhaliodd swyddogion y prosiect amrywiaeth o wahanol weithgareddau, gan gynnwys gwaith cadwraeth ymarferol, sesiynau addysgol, arolygu rhywogaethau, cadwraeth forol, gweithgareddau awyr agored cyffrous a chyfleoedd gwirfoddoli.
  • fe wnaeth Ein Glannau Gwyllt ymwneud â 1,531 o bobl ifanc
  • bu 23 o bobl ifanc yn ymwneud â chynlluniau hyfforddi ac yn ennill cymwysterau cymorth cyntaf a dyfarniadau AQA
  • derbyniodd 197 o bobl ifanc ddyfarniadau John Muir
  • cwblhaodd 5 person ifanc interniaeth
  • cafodd 45 o lefydd eu gwella ar gyfer byd natur (gardd gymunedol, gwarchodfeydd natur, coetiroedd, gofod mewn ysgolion, rhandiroedd, parciau / caeau chwarae, traethau ac afonydd)
Yn 2019 cynhaliodd y tîm raglen hyfforddi a roddodd gyfle i 10 o bobl ifanc gymryd rhan mewn cadwraeth ymarferol a dysgu am fyrdd o bynciau gan staff YNGC. Cymerodd Patrycja ran yn y cynllun hyfforddi ac ysgrifennodd am ei phrofiad.
“Roedd pob diwrnod yn llawn o weithgareddau newydd yn amrywio o archwilio pyllau creigiog i hyfforddiant cymorth cyntaf, felly ar ôl y pythefnos llawn hwyl roedd gen i gymaint o brofiadau a sgiliau newydd y gallwn eu rhoi ar fy CV”
Roedd Emma yn un o’r pum intern gyda phrosiect Ein Glannau Gwyllt – darllenwch ei stori yma.
Cafodd Finn ei ysbrydoli gan Gais 1 Our Bright Future felly ysgrifennodd at ei AS i ofyn i’r Llywodraeth alluogi plant ysgol i gael awr o amser gwersi yn yr awyr agored bob dydd – darllenwch am ei brofiad a’i gyngor yn y blog yma.
Mae cyfle i gael gwybod mwy am brofiadau pobl ifanc o’r prosiect drwy ddarllen blog Paige a stori Francis. Gallwch hefyd gael gwybod mwy drwy lawrlwytho gwerthusiad Ein Glannau Gwyllt.