Darparodd y prosiect Green Futures gyfleoedd amgylcheddol i bobl ifanc yng Nghymoedd Sir Efrog a’r cyffiniau. Roedd yn cynnwys pedair elfen benodol – Gwarcheidwaid Gwyrdd, Ceidwaid Ifanc, Hyfforddeion y Cymoedd a’r Bryniau, ac Eco-Ysgolion. Dyma rai o lwyddiannau allweddol y prosiect:
  • ymgysylltu â 8051 o bobl ifanc
  • cwblhau 851 o brosiectau gwella amgylcheddol yn llwyddiannus ar gyfer mannau gwyrdd, glas ac adeiledig
  • sicrhaodd pedwar ar ddeg o Hyfforddeion y Cymoedd a’r Bryniau gyflogaeth barhaol ar ddiwedd eu prentisiaethau, gydag wyth yn parhau fel gweithwyr parhaol gyda’u cyflogwyr lleoliad gwaith
  • dyfarnu cyllid o Gronfa Gweithredu Amgylcheddol Ieuenctid i helpu i gyflwyno 33 o brosiectau gweithredu amgylcheddol cymunedol, y cyfan wedi’u cynllunio a’u harwain gan bobl ifanc
  • y gydnabyddiaeth gan bartneriaid o werth a phwysigrwydd cael cynrychiolaeth o bobl ifanc ar lefel strategol o fewn eu sefydliadau. Mae Ymddiriedolaeth Mileniwm Cymoedd Sir Efrog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymoedd Sir Efrog ac Ymddiriedolaeth Natur Cumbria i gyd wedi penodi o leiaf un person ifanc i ymuno â’u Byrddau o ganlyniad i’r prosiect.
“Heb fy mhrentisiaeth, mae siawns dda iawn y byddwn i’n dal i fod yn styc mewn swydd nad oeddwn i eisiau bod ynddi, yn gweithio bob awr dan haul a heb deimlo’n fodlon. Ond nawr rydw i’n rhagori ar fy nisgwyliadau fy hun ac yn mwynhau gwaith am y tro cyntaf. Rydw i newydd gael cynnig swydd yn gweithio i un o elusennau cadwraeth mwyaf y DU…. cyfle sydd wedi fy nghyffroi i gymaint ac mae’n debyg na fyddwn i erioed wedi’i gael oni bai am fy mhrofiad blaenorol ym maes cadwraeth.”
(Cyfweliad Astudiaeth Achos, Hyfforddai y Cymoedd a’r Bryniau)
Darparodd Fforwm Amgylchedd Ieuenctid ac Uwchgynadleddau Blynyddol y prosiect le gwych i bobl ifanc archwilio materion amgylcheddol ehangach. Roedd pobl ifanc yn ymwneud yn uniongyrchol â chynllunio a chyflwyno’r ddwy gyfres o ddigwyddiadau, gan ddewis pa bynciau i’w harchwilio a rhoi sylw i ystod eang o faterion amgylcheddol y mae pobl ifanc ar lefel leol a byd-eang wedi gallu uniaethu â nhw.
“Rydw i’n rhoi sylw i’r hyn rydw i’n ei brynu. Rydw i’n lleihau’r pethau nad ydw i’n gallu eu defnyddio fwy nag unwaith ac rydw i’n ymwybodol o bethau sydd angen digwydd i greu newid.”
Cyfranogwr, Uwchgynhadledd Amgylcheddol i Ieuenctid
Cwblhaodd Jade brentisiaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Cumbria, gallwch ddarllen y blog a ysgrifennodd am ei thaith. Cymerodd Melanie ran yn y prosiect ac ysgrifennodd flog gydag awgrymiadau da ar gyfer Nadolig moesegol. Ellie oedd ymddiriedolwr ifanc cyntaf Ymddiriedolaeth Mileniwm Cymoedd Sir Efrog a gallwch ddarllen ei blog o’r enw ‘how young people can influence change’. Gallwch hefyd ddarllen am brofiadau Abbi a Sian fel rhan o’r prosiect. Eisiau cael gwybod mwy? Darllenwch adroddiad gwerthuso Green Futures