Fe wnaeth y prosiect Growing Up Green yn Sir Lincoln ymgysylltu â 5,328 o bobl ifanc mewn amgylcheddau naturiol ac adeiledig gan adael strwythurau a gosodiadau a newid agweddau mewn llawer o gymunedau. Mae’r gwaith sydd wedi’i gwblhau gan y bobl ifanc wedi arwain at fwy o ddefnydd o fannau gwyrdd gan y cyhoedd, mwy o fflora a ffawna ar y safleoedd hyn a hefyd mae prosiectau dylunio / eco-adeiladu wedi gadael gwaddol i’r prosiect. Mae pobl ifanc wedi bod yn cymryd rhan drwy weithdai adeiladu naturiol, gweithgareddau archwilio pyllau, neu ddarparu gwasanaethau cefn gwlad yn yr ardal leol, ac wedi meithrin sgiliau ymarferol ac wedi magu hyder a hunan-barch a gweld llawer o ddatblygiad personol. Nod yr holl weithgareddau oedd newid agweddau a gwella dealltwriaeth o sut gall pobl ifanc arwain newid a gweithredu gwahaniaethau cadarnhaol i’r amgylchedd ar gyfer dyfodol mwy disglair.
  • Cafodd 22 o leoliadau cymunedol eu gwella a chrëwyd 26 o leoliadau cymunedol newydd
  • 620 erw o dir wedi’i reoli
  • 866 o gymwysterau wedi’u hennill gan bobl ifanc
  • Cofnodwyd 23 o rywogaethau o löynnod byw yn Hill Holt Wood
  • Cofnodwyd 11 o rywogaethau o ystlumod yn Hill Holt Wood a Norton Big Wood
  • Cofnodwyd 4 pâr yn magu o’r gwybedog brith yn Hill Holt Wood
“Yn onest dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi llwyddo heb i chi fod â ffydd yno i, a dydw i ddim yn gallu mynegi digon pa mor ddiolchgar ydw i am hynny oherwydd fe helpodd fi i fagu hyder i fynd ar ôl yr hyn sy’n teimlo’n iawn i mi” Cyfranogwr Growing Up Green
 
Fe wnaeth Amy gymryd rhan yn y prosiect Growing Up Green, darllenwch ei stori yma a chael gwybod mwy yn y blog yma am sut wnaeth y prosiect gofleidio ein hethos Rhannu Dysgu Gwella drwy drefnu tripiau cyfnewid i brosiectau eraill Our Bright Future
Creodd tîm Growing Up Green y canllaw hyfryd yma, Guide to Growing Up Green sy’n cynnwys canllawiau defnyddiol ar reoli coed, pryfed peillio, pyllau i fywyd gwyllt a llawer mwy o bynciau eraill i’ch helpu chi i dyfu’n wyrddach.
Gallwch gael gwybod mwy am My World My Home drwy lawrlwytho adroddiad gwerthuso’r prosiect.