Creodd prosiect Our Bright Future Fife lwybr at waith rheoli amgylcheddol ymarferol ar gyfer pobl ifanc. Cyflwynwyd y prosiect drwy chwe phartner craidd ar draws pedwar lleoliad; Ymddiriedolaeth Stiwardiaeth Falkland (partner arweiniol), The Ecology Centre yn Kinghorn, Ymddiriedolaeth Mynediad Cyflogaeth Fife, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cambo, Cymdeithas Tai Kingdom a Rural Skills Scotland gyda chefnogaeth ymgynghorwyr o Goedwigaeth yr Alban, Cyngor Fife a Gweithredu Gwirfoddol Fife.
Mae’r bobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect wedi cyflawni gwelliannau mewn rheoli coetiroedd, cael gwared ar rywogaethau ymledol, creu gwestai trychfilod, plannu coed a datblygu dolydd blodau gwyllt i enwi dim ond rhai pethau!
Cymerodd mwy na 300 o bobl ifanc o sefyllfaoedd cymdeithasol ac economaidd difreintiedig ran yn y prosiect.
Cymerodd 60 o bobl ifanc ran mewn ‘Lleoliadau Academi’ lle bu pobl ifanc yn cymryd rhan mewn hyfforddiant wedi’i dargedu a gweithgareddau cadwraeth i ehangu sgiliau ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd a sut brofiad yw gweithio yn y sector gwledig.
Cwblhaodd 32 o bobl ifanc brentisiaeth mewn Coed a Phren, Garddwriaeth neu Sgiliau Gwledig, a Chynnal a Chadw Stadau.
Aeth pum person ifanc ymlaen i ddatblygu eu busnesau a’u mentrau cymdeithasol eu hunain. Gallwch gael gwybod mwy am eu profiadau drwy’r pedwar fideo byr yma am brofiadau Laura, Lola, Lyndon a Mickey.
“Mae’r rhaglen wedi bod yn wych, rydw i’n bendant wedi tyfu fel person ac rydw i’n fwy hyderus yn fy ngalluoedd yn ogystal ag ennill tystysgrifau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant sydd wedi fy helpu i sicrhau fy swydd newydd”.
Mae 100% o’r bobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect wedi dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ac yn fwy cadarnhaol amdanynt eu hunain.
Ymwelodd Millie a Kyle â Senedd Ieuenctid yr Alban ym mis Rhagfyr 2018, gallwch ddarllen amdanynt yn adlewyrchu ar y profiad yn y blog,yma, cael gwybod mwy gan Aaron am ei ymweliad â Sioe Coetiroedd Confor a darllen am brofiad Jess gyda’r prosiect.
Gallwch gael gwybod mwy am Creu Cymunedau Cynaliadwy drwy lawrlwytho adroddiad gwerthuso’r prosiect.