Gweithredwyd Prosiect Academïau Gwyrdd (GAP) yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol rhwng mis Ionawr 2016 a mis Rhagfyr 2020. Gweithiodd y prosiect mewn chwe eiddo mewn pum dinas yng Nghymru a Lloegr i sefydlu a hyfforddi pobl ifanc i gymryd ysgwyddo am gadwraeth lleoliadau awyr agored lleol.
Cyrhaeddodd y prosiect fwy na 10,000 o bobl ifanc drwy sesiynau blasu untro yn ogystal â gwirfoddoli tymor hwy.
Enillodd mwy na 100 o bobl ifanc gymwysterau mewn pynciau gan gynnwys cadwraeth a rheoli tir.
Dywedodd 69% o’r cyfranogwyr eu bod yn fwy hyderus o ganlyniad i gymryd rhan yn GAP
Fe wnaeth y prosiect greu neu wella mwy na 100 o lefydd cymunedol
Canlyniad arwyddocaol GAP oedd bod lles cymunedau a chyfranogwyr yn cael ei wella drwy dreulio amser ym myd natur. Nododd partneriaid, cymunedau a chyfranogwyr i gyd welliannau sylweddol i’r mannau gwyrdd a elwodd o gyfranogiad GAP.
‘[Mae] sgiliau newydd i’w dysgu bob amser ac mae pobl newydd i’w cyfarfod hefyd. Rydw i’n hoffi sut nad yw pob diwrnod neu leoliad gwaith byth yr un fath. Rydw i’n mwynhau gwirfoddoli’n fawr.’ ~ Cyfranogwr GAP
Cyfle i gael gwybod mwy am brofiadau pobl ifanc GAP drwy ddarllen stori Daniel, stori Aiden a stori Sian. Gallwch hefyd ddarllen adroddiad gwerthuso GAP yma.