Ar 21 Ebrill, lansiodd yr Adran Addysg (DfE) y strategaeth Hinsawdd a Chynaliadwyedd newydd. Roedd gwir angen ffocws cadarnach ar rôl addysg wrth baratoi’r cenedlaethau nesaf i fyw ac ymdrin â’r argyfyngau amgylcheddol, iechyd a hinsawdd sy’n cydblethu. Felly, rydym yn croesawu lansiad y strategaeth. Mae’n wych gweld bod gwerth cysylltiad pobl ifanc â’u hamgylchedd lleol wedi’i gydnabod yn briodol, yn ogystal â’r pwysigrwydd i bobl ifanc deimlo eu bod wedi’u grymuso drwy weithredu cadarnhaol ymarferol.

Mae pobl ifanc yn Our Bright Future wedi creu tri chais ar gyfer y newidiadau cadarnhaol maent eisiau eu gweld drostynt eu hunain a’r amgylchedd a’r un sydd agosaf at eu calonnau yn bendant yw “dysgu mwy ym myd natur ac amdano”. Dyma pam y gwnaethom gyfarfod yn ystod y misoedd diwethaf â chynrychiolwyr o’r DfE a chyfrannu’n frwd at y strategaeth. Hefyd roedd tri o bobl ifanc o Our Bright Future ar y Panel Ieuenctid sydd wedi bod yn sail i’r strategaeth yn ei chyfnod datblygu ac a fydd yn llywio ei gweithredu. Mae hwn yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir ar gyfer ymgysylltiad o ansawdd da gan ieuenctid.

I mi, mae dau bwynt cadarnhaol yn gwbl amlwg yn y Strategaeth. Gadewch i mi roi eiliad i ddathlu’r rhain gyda chi ac adlewyrchu ar y camau nesaf.

Y cyntaf yw cyhoeddi pwnc ysgol newydd – TGAU hanes natur – a fydd yn galluogi pobl ifanc i ddysgu am organebau, yr amgylchedd a chynaliadwyedd a chael gwybodaeth ddyfnach ac ymarferol am fyd natur. Bydd hwn yn gyfle gwych i lawer o bobl ifanc a fydd, am y tro cyntaf, yn gallu datblygu dealltwriaeth gyfoethog o’r byd naturiol: o’u bywyd gwyllt lleol eu hunain, eu hamgylchedd a’u hecosystemau i heriau byd-eang hollbwysig fel newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd.

Fel mae pobl ifanc yn Our Bright Future wedi dweud wrthym yn rheolaidd, er y bydd y TGAU newydd yn bendant yn gwella gwybodaeth pobl ifanc am fyd natur ac yn eu grymuso i’w warchod yn well, mae’n bwysig iawn bod addysg natur a hinsawdd yn cael ei hymgorffori ar draws y cwricwlwm. Roedd ein prentis Ashleigh yn llygad ei lle yn ei blog diweddar, Yr angen am ailgysylltu pobl ifanc â byd natur, pan ddywedodd ei bod yn allweddol i bob ysgol fod yn cynnal mwy o wersi yn yr awyr agored i gynnig cyfle dysgu drwy brofiad i bawb, gan gynnwys y rhai heb gymaint o ddiddordeb mewn byd natur a’r amgylchedd.

Mae hyn yn arwain at yr ail bwynt sy’n rheswm dros ddathlu. Yn y strategaeth, mae ymrwymiad gan yr Adran Addysg i ymgysylltu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar ymchwil pellach i sut gellir darparu dysgu awyr agored i gael yr effaith fwyaf. Byddem wrth ein bodd yn gweld y cydweithredu hwn yn cael ei ymestyn i’r GIG hefyd – oherwydd rydym wedi gweld bod amser a dreulir yn yr awyr agored yn gwella iechyd meddwl, sy’n faich allweddol a chynyddol i’r gwasanaeth iechyd. Mae hefyd addewid i ddefnyddio ac asesu dyluniad ystafelloedd dosbarth sy’n seiliedig ar natur i fanteisio i’r eithaf ar fynediad i’r awyr agored a chyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, fel bod adeiladau addysg yn effeithio’n gadarnhaol ar les corfforol a meddyliol myfyrwyr. Mae hyn yn wych i’w weld, gan ei fod yn ymateb i bobl ifanc yn Our Bright Future sydd wedi mynnu hyn ers tro, fel y dangosir yn ein llythyr at y Pwyllgor Dethol ar Addysg yn gofyn am ymchwiliad i werth dysgu yn yr awyr agored.

Drwy Our Bright Future, rydym wedi gweld a chofnodi’r manteision niferus sy’n deillio o ddysgu yn yr awyr agored a chysylltu â byd natur. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi papur dysgu gwerthuso ar y manteision i iechyd meddwl a lles wrth i bobl ifanc ymgysylltu â’r amgylchedd.

Yn ôl prosiect ymchwil pedair blynedd diweddar gan Natural England, profwyd bod amser sy’n cael ei dreulio yn yr awyr agored a dysgu am fyd natur yn lleihau gorbryder, iselder, straen a phroblemau ymddygiad. Roedd y canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at y budd i athrawon, gyda 79 y cant yn adrodd am effeithiau cadarnhaol ar eu harfer addysgu, a 72 y cant yn adrodd am well iechyd a lles.

Yn ogystal, yn ôl ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth yr Alban, mae tystiolaeth gynyddol gref y gall profiadau ym myd natur roi hwb i ddysgu academaidd, hyd yn oed mewn meysydd pwnc nad ydynt yn gysylltiedig â’r lleoliad awyr agored.

Gan fod y llu o fanteision sydd i’w cael o ddysgu yn yr awyr agored wedi bod yn glir ers blynyddoedd, rydym yn croesawu’r ffaith bod ffocws y strategaeth bellach yn symud at sut i ddarparu cyfleoedd dysgu awyr agored yn well, gan adeiladu ar fentrau llwyddiannus fel Ysgolion Cyfeillgar i Natur, i ddatgloi eu llawn botensial ac ymgorffori’r rhain yng nghwricwlwm ysgolion prif ffrwd. Byddai hyn yn helpu i nodi unrhyw rwystrau sy’n atal plant rhag cysylltu â byd natur yn ystod amser ysgol.

Mae gan y DU y potensial i arwain ar addysg hinsawdd a chynaliadwyedd, ac mae arwyddion cadarnhaol yn y strategaeth newydd yn pwyntio i’r cyfeiriad cywir. Edrychwn ymlaen yn awr at y camau gweithredu y bydd eu hangen i ddilyn y strategaeth. Bydd cynnwys plant a phobl ifanc wrth gynllunio a chyflawni’r camau nesaf yn allweddol i lwyddo.