Ar y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored eleni, ddydd Iau 19 Mai, bydd athrawon a phlant ledled y byd yn dilyn gwersi yn yr awyr agored. Mae’n gyfle gwych i lawer edrych ar ddysgu yn yr awyr agored o’r newydd, a sut gellir ymgorffori byd natur mewn dosbarthiadau ar gyfer unrhyw bwnc. Mae pobl ifanc Our Bright Future eisiau i hyn fod yn rhan o addysg bob dydd!

 

Ond oeddech chi’n gwybod bod llawer o fyfyrwyr yn y DU yn treulio llai o amser yn yr awyr agored na charcharorion mewn carchardai diogelwch eithaf?

 

Mae’r dystiolaeth yn helaeth. Dangoswyd bod mynd allan a dysgu am fyd natur yn lleihau gorbryder, iselder, straen a phroblemau ymddygiad, gyda 90% o ddisgyblion yn dweud eu bod yn teimlo’n hapusach ac yn iachach[1]. Hefyd mae astudiaethau wedi dangos y gall cynyddu’r amser a dreulir yn yr awyr agored leihau achosion o glefydau heintus fel annwyd hyd at 80%[2]. Gyda’r tarfu mae Covid wedi’i achosi i addysg plant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r achos dros ymgorffori dysgu yn yr awyr agored ym mhob rhan o’r system addysg yn sicr yn gryfach nag erioed.

 

Ac wrth gwrs, nid dim ond y ffeithiau a’r ystadegau sy’n bwysig! Mae pobl ifanc eisiau mwy o gyfleoedd i fynd â dosbarthiadau y tu allan, ac i ddysgu mwy am yr amgylchedd. Gyda’n gilydd, rydym eisiau dangos bod galw am ddysgu seiliedig ar natur, nid yn unig gan bobl ifanc, ond gan addysgwyr, rhieni, gweithwyr ieuenctid… unrhyw un a phawb!

 

Does dim angen i hyn olygu cerdded i warchodfa natur bob dydd; gellir cyflwyno dysgu yn yr awyr agored drwy weithgareddau bach ar dir yr ysgol, hyd yn oed os nad oes gennych chi lawer iawn o le neu fynediad uniongyrchol i fyd natur. Yn union fel y bydd llawer o ysgolion yn ei wneud ar y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored eleni!

A pheidiwch ag anghofio am y manteision i natur hefyd. Yn ogystal â’r gwelliannau mwy uniongyrchol y gall gweithgareddau dysgu awyr agored eu cyflwyno i fyd natur ar dir yr ysgol, drwy sicrhau bod plant heddiw’n cael y cyfle i ymgysylltu â byd natur, gan feithrin eu hoffter a’u hymdeimlad o gyfrifoldeb dros yr amgylchedd, bydd cadwraethwyr yfory yn dod o hyd i’w galwedigaeth.

 

Os ydych chi’n mynd allan ar y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored eleni, rhowch wybod i ni pa weithgareddau ydych chi wedi’u cynllunio! Ac os ydych chi’n chwilio am syniadau, edrychwch ar y gyfres yma o fideos gan eiriolwyr ifanc yn Ulster Wildlife.

 

[1] Natural England, Natural Connections Demonstration Project, 2012-2016: Final Report, 2016

[2] Prisk, Cath a Dr Harry Cusworth, Muddy Hands, 2019