Gemma ydw i, 18 oed, ac rydw i wedi fy lleoli yng Ngogledd Sir Efrog. Rydw i’n gwneud seicoleg yn y brifysgol, a fy hoff gyfres i ar Netflix ydi’r Big Bang Theory. Rydw i ar hyn o bryd yn mwynhau bywyd prifysgol ac yn ddiweddar rydw i wedi dod yn aelod o Fwrdd Cynghori Ieuenctid Bright Green Future; mae hwn yn grŵp o gyn-aelodau sy’n helpu i siapio profiad BGF.

Wrth sgrolio drwy Instagram, fe welais i hysbyseb ar gyfer Bright Green Future, a oedd yn un o 31 o is-brosiectau Our Bright Future. Roedd yr algorithm ar Instagram yn iawn; roedd hon yn rhaglen berffaith; ar ôl darllen yr wybodaeth ar eu gwefan nhw, roeddwn i wedi cael fy narbwyllo ac fe wnes i ddechrau gweithio ar fy nghais. Fe gefais i fy nerbyn ar y rhaglen ganol mis Medi 2020; ychydig wyddwn i bod hwn yn ddechrau ar siwrnai.

Fy hoff rannau i o Bright Green Future oedd creu fy mhrosiect lleol, oedd yn cynnwys creu adnoddau addysgol am yr amgylchedd a chyfarfodydd mentora grŵp rhanbarthol. Fel aelodau o’r Rhaglen Bright Green Future, fe gawsom ni gyfle i wneud cais i fod yn rhan o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future; fe benderfynais i roi cynnig arni a dod yn aelod o’r Fforwm Ieuenctid ym mis Rhagfyr 2020.

Roedd y sesiynau cychwynnol gyda’r Fforwm Ieuenctid yn arbennig o ystyrlon. Roeddwn i’n dysgu ar-lein ym mis Ionawr 2021 oherwydd y cyfnod clo, ac roedden nhw’n ddihangfa rhag y newyddion a gwaith ysgol. Yn ystod y misoedd dilynol, fe wnes i ddechrau cymryd rhan yn y sesiynau wythnosol gyda’r Fforwm Ieuenctid; roedd hwn yn ofod gwych i siarad â mwy fyth o bobl debyg i mi, a chynyddu fy hyder.

Roedd y gweithgareddau mor amrywiol; roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan yn y gynhadledd ddŵr ar-lein gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rheoli dŵr a helpu i greu sesiynau ar gyfer aelodau newydd y Fforwm Ieuenctid. Fe wnaethom ni gael hyfforddiant arweinyddiaeth gydag Uprising; dyma’r tro cyntaf erioed i mi ystyried y syniad o arweinyddiaeth. Fe gefais i rywfaint o fentora hefyd, lle rhoddodd un o fy nghyd-aelodau yn y Fforwm Ieuenctid oedd yn hyfforddi i fod yn fentor awgrymiadau i mi ar gyfer ysgrifennu CV a llythyr yn cyd-fynd. Yn ddiweddarach yn ystod y mis hwnnw, fe gefais i fy swydd gyntaf un.

Drwy Our Bright Future, fe enillais i Gymhwyster Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid, a oedd yn ddiddorol iawn. Fe agorodd y cymhwyster yma fy llygaid i i fath gwahanol o swydd; fe wnes i ddysgu am rôl hanfodol gweithwyr ieuenctid yn natblygiad pobl ifanc a’r gymuned. Hefyd, fe gefais i’r cyfle i gymryd rhan mewn Cyfarfod Bwrdd Crwn gyda Gweinidog Cabinet y DCMS i drafod Gwarant Gwaith Ieuenctid y DU a darpariaethau gwasanaethau ieuenctid. Yn y cyfarfod, fe deimlais i’r pŵer y gall grŵp o bobl ifanc wedi’u grymuso ei gael drwy gael y cyfle i siarad â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Ar ôl cymryd rhan yn y Bwrdd Crwn a gorffen y gwaith cwrs ar gyfer Lefel 2, fe gymerais i gam yn ôl o’r Fforwm Ieuenctid i ganolbwyntio ar fy arholiadau Lefel A oedd ar y gorwel. Yn ystod haf 2022, fe gefais i e-bost am gymryd rhan mewn Grŵp Ymgyrchu a fyddai’n mynychu Cynadleddau’r Pleidiau Gwleidyddol yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno. Ddwy flynedd ynghynt, ’fyddwn i ddim hyd yn oed wedi ystyried y syniad, ond nawr fe wnes i neidio ar y cyfle. Fe es i i Gynhadledd y Blaid Lafur ym mis Hydref 2022 a chael cyfle i helpu gyda sesiwn Holi ac Ateb gydag AS hyd yn oed.

Mae’n anodd disgrifio faint mae Our Bright Future wedi effeithio arnaf i gyda’r cyfleoedd a’r gefnogaeth y mae wedi’u rhoi i mi. Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i’n angerddol am yr amgylchedd, ac fe wnaeth Our Bright Future fy meithrin i a fy helpu i dyfu’r angerdd hwnnw i fod yn rhywbeth mwy. Fe ddysgais i am bŵer eiriolaeth ieuenctid a llais ieuenctid, ac mae’n rhaid i chi ei brofi i’w ddeall. Y teimlad grymus hwnnw bod cymaint o bobl ifanc eraill allan yna yn poeni am yr amgylchedd a materion cymdeithasol. Er ei bod yn drist bod rhaglen Our Bright Future yn dod i ben, rydw i’n gobeithio y bydd ei gwaddol yn creu gofod ar gyfer rhaglenni newydd i gefnogi pobl ifanc a’r amgylchedd.