Pam ddylem ni wirfoddoli?

  • Drwy fesur gweithgarwch ymennydd a hormonau gwirfoddolwyr, mae ymchwilwyr wedi darganfod bod gwirfoddolwyr yn cael pleser mawr wrth helpu eraill. Po fwyaf maent yn ei roi, yr hapusaf maent yn teimlo. Mae gwirfoddoli’n helpu i gael gwared ar iselder gan eich bod yn cyfarfod â phobl yn rheolaidd ac yn eu helpu i wella eu system gefnogi. Hefyd, gall eich cadw’n gorfforol iach gan fod astudiaethau wedi nodi bod gan wirfoddolwyr gyfradd marwolaethau is na’r rhai sydd ddim yn gwirfoddoli. Gall leihau’r risg o glefyd y galon a lleihau symptomau poen cronig. Mae cynnydd yn hunanhyder gwirfoddolwyr oherwydd ei fod yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad a hunaniaeth iddynt o wneud gwahaniaeth.
  • I gael profiad mewn sector penodol i’w helpu gyda’u gyrfa. Mae cyfle i feithrin sgiliau swyddi gwerthfawr drwy wirfoddoli, fel trefnu, defnyddio eu dyfeisgarwch a’u sgiliau ysgrifenedig a llafar, ac ati. Gall arwain at interniaethau neu gyfleoedd eraill yn y sefydliad.
  • Dim ond er mwyn helpu eraill mewn angen dybryd neu’r gymuned rydych yn byw ynddi oherwydd gall pobl fod yn bryderus am fater penodol yn eu cymuned, fel llai o ddefnydd o barciau. Gwella pethau neu helpu pobl yw’r rheswm mwyaf pam mae pobl eisiau gwirfoddoli, a nodwyd gan 50% o’r ymatebwyr o arolwg a gynhaliwyd yn 2021 gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant a’r Cyfryngau. Yr ail reswm mwyaf oedd bod yr achos yn bwysig iawn iddynt, a nodwyd gan 33% o’r ymatebwyr.
  • I greu cysylltiadau a gwneud ffrindiau newydd. Mae gwirfoddolwyr yn cysylltu â’r gymuned drwy wirfoddoli ac yn gwneud ffrindiau newydd a all frwydro yn erbyn unigrwydd a bod yn ynysig. Dangosodd arolwg NCVO a gwblhawyd yn 2019 gan ychydig dros 10,000 o bobl dros 18 oed bod nifer fawr o bobl ifanc 18 i 24 oed wedi dweud bod gwirfoddoli yn ffordd wych o fynd i’r afael ag ynysu. Yn ogystal, gellir datblygu sgiliau cymdeithasol wrth i wirfoddolwyr wneud ffrindiau newydd sydd â diddordebau cyffredin, a gwneud mwy drwy gysylltiadau eu ffrindiau.
  • I gael ychydig o hwyl a newid o arferion dyddiol oherwydd gall gwirfoddoli fod yn ddull o ymlacio os ydych chi’n teimlo ei fod yn cael effaith ac yn ddiddorol. Gall fod yn ddull o symud oddi wrth deulu, ysgol a gwaith. Gallai ddod yn hobi y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud y tu allan i’r gwaith lle gallant lenwi eu hamser hamdden. Er enghraifft, os oes gennych chi swydd mewn swyddfa ac os hoffech chi newid eich amgylchedd am beth amser, efallai y bydd gwirfoddoli mewn canolfan achub anifeiliaid neu mewn gardd gymunedol o ddiddordeb.

 

Anfanteision personol gwirfoddoli

Yn bersonol, roedd aelodau’r teulu yn dweud wrthyf nad oedd gwirfoddoli’n syniad da gan eu bod yn meddwl ei fod yn “wastraff amser”. Roeddent yn anghymeradwyo a ddim yn hoffi’r syniad. Fe wnaeth hyn fy atal i rhag manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli a gwneud i mi chwilio am swydd yn lle gwirfoddoli. Fodd bynnag, nawr rydw i’n sylweddoli y byddai gwirfoddoli wedi fy ngalluogi i feithrin sgiliau a chael profiad a fyddai wedi fy helpu i gael swydd yn gyflym. Ffactor arall oedd nad oeddwn i wedi derbyn hysbysiadau am gyfleoedd i wirfoddoli yn y sector amgylcheddol yn y brifysgol neu yn fy nghymuned. Pe bai mwy o ymwybyddiaeth o sut gall trigolion lleol helpu eu cymuned leol neu pe bai modd anfon yr wybodaeth at ddarlithwyr ac athrawon perthnasol, byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol.

Fy mhrofiad i o wirfoddoli

  • Gwirfoddolwr Dysgu ym Mharc West Ham
    Fe wnes i grybwyll fy mhrofiad fel Gwirfoddolwr Dysgu mewn blog blaenorol. Edrychwch arno! Y sgiliau wnes i eu gwella yn y rôl yma oedd bod yn rhagweithiol a rheoli amser. Fe wnes i weithio yn hyblyg gan ddod i mewn pan oeddwn i eisiau gwneud hynny, yn dibynnu ar ba sesiynau yr oeddwn yn awyddus i helpu ynddyn nhw.

 

  • Creu cynnwys deunydd addysgol
    Braf oedd cynhyrchu deunydd addysgol ar gyfer plant CA1 a CA2 yn ystod y cyfyngiadau symud. Fe wnes i greu powerpoints a dogfennau word ar wahanol bynciau amgylcheddol gyda chwis ar y diwedd! Drwy hyn, fe wnes i ddatblygu fy sgiliau cyflwyno a chreadigrwydd, a dysgu gwybodaeth. Fe ddysgais i fwy am faterion amgylcheddol fel ffeithiau am lygredd plastig ac am y gwahanol fiomau yn y byd.

 

  • Gwirfoddolwr Tîm Llundain
    Fe wnes i hysbysebu digwyddiadau a oedd yn cael eu cynnal i ddathlu’r symud tuag at Lundain yn dod yn Ddinas Parc Cenedlaethol. Roedd y rhain yn cynnwys ffotograffau bywyd gwyllt a gyflwynwyd yn yr awyr agored, gosodiad sain unigryw yn Epping Forest, a llawer mwy o raglenni. Fe wnes i ddatblygu fy sgiliau hyder wrth i mi orfod mynd at bobl a dweud wrthyn nhw am y gwahanol ddigwyddiadau oedd yn digwydd o gwmpas Llundain a rhai sgiliau darbwyllo wrth ofyn i bobl ar y stryd lenwi ein harolwg ni – a aeth yn reit dda! Roedd yn ddiwrnod hynod o boeth ym mis Gorffennaf ond ’wnaeth hynny ddim fy atal i rhag mwynhau’r diwrnod – roedd yn ddiddorol siarad ag amryw o Lundeinwyr.

 

Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli, yn eich ardal leol neu drip untro i le pell i ffwrdd. Fe fyddwn i’n argymell manteisio ar y cyfle tra gallwch chi oherwydd efallai y byddwch yn dod o hyd i hobi newydd neu’n llwyddo i fentro ymhellach na’r hyn sy’n gyfforddus i chi – yn fy achos i, bod â llai o ofn ymlusgiaid a phryfed! Fe allwch chi wneud gwahaniaeth enfawr i’ch cymuned neu’r bobl sydd angen help ar frys.