Bob chwarter rydyn ni’n cyhoeddi uchafbwyntiau rhaglen Our Bright Future. Dyma’r rhai diweddaraf:



Cynhaliodd y prosiect Green Futures uwchgynhadledd ieuenctid olaf ym mis Gorffennaf gyda thema ddathlu! Fe wnaethant lusernau, collages, mynd i grwydro ogofâu, trafod ailwylltio Ingleborough a symud 500 o warchodwyr coed plastig
Fe gynhaliodd Our Bright Future Fforwm Ieuenctid preswyl gwych! Roedd yn grêt i’r bobl ifanc ddod at ei gilydd y tu allan yng nghanol byd natur i ddathlu gwaddol y rhaglen!
Mynychodd pedwar o aelodau Cyngor Ieuenctid MyPlace Sir Gaerhirfryn Gynhadledd y Blaid Geidwadol i siarad â Gweinidogion, cawsant gyfle hefyd i gwrdd â Phrif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaethau Natur Craig Bennett.


