Sion ydw i ac ar hyn o bryd rydw i’n cymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol UpRising, sef un o brosiectau Our Bright Future.
Dechreuodd y cyfan gyda galwad na lwyddais i’w hateb a neges destun gan Libbi, Cydlynydd Rhaglen UpRising ar gyfer Caerdydd. Yn ei neges, dywedodd Libbi “Ffonia fi pan gei di funud, mae gen i gyfle fydd o ddiddordeb i ti efallai”. Roeddwn i newydd orffen gweithio ac yn aros am fws i fynd adref felly fe ffoniais hi’n ôl. Yna gofynnodd i mi a fyddwn i’n hoffi rhoi araith ar newid yn yr hinsawdd yn un o ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru. Fe gefais i sioc! Ers tro bellach, rydw i wedi bod yn frwd iawn dros frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac rydw i wedi bod eisiau’r cyfle i siarad â phobl sydd mewn grym i geisio dylanwadu arnyn nhw i wneud newidiadau cadarnhaol. A minnau’n dal mewn sioc, fe gytunais i fanteisio ar y cyfle. Ar ôl dod oddi ar y ffôn, roeddwn i’n teimlo’n nerfus ond yn llawn cyffro ar yr un pryd. Roeddwn i’n wên o glust i glust ond yn methu credu’r peth chwaith! Dyma’r cyfle yr oeddwn i wedi bod yn aros amdano.
Enw’r digwyddiad oedd “Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel”, lle byddai Llywodraeth Cymru yn datgan ei chynllun ar gyfer lleihau ei hallyriadau hyd at 2050. Roedd gen i tua phythefnos i baratoi cyn y digwyddiad. Dros y dyddiau nesaf, fe ddechreuais feddwl am y mathau o bethau roeddwn i eisiau eu dweud, ac yna, wythnos cyn y digwyddiad, ysgrifennais ddrafft cyntaf yr araith. Anfonais y drafft at Libbi a’i ddarllen i fy nheulu, a chefais adborth cadarnhaol gan bawb. Roeddwn i’n hyderus bod fy araith yn dda, ond roedd yn rhaid i mi ei chyflwyno’n berffaith. Fe wnes i ymarfer ac ymarfer a golygu fy araith nes ’mod i’n fodlon â hi.
Roedd diwrnod y digwyddiad wedi cyrraedd. Roedd yn rhaid i mi ddeffro’n gynnar gan fod gen i gyfweliad byw ar Radio Cymru’r BBC i drafod y digwyddiad. Aeth y cyfweliad yn dda felly es i’n ôl i gysgu am awr cyn gwisgo fy siwt a mynd yn ôl i westy’r Exchange lle’r oedd y digwyddiad yn cael ei gynnal. Dyma’r hen gyfnewidfa lo, y busnes masnachu glo mwyaf yn y byd a’r man lle llofnodwyd y siec gyntaf erioed am filiwn o bunnoedd. Roedd yn deimlad rhyfedd bod rhywle a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio i fasnachu’r tanwydd ffosil mwyaf budur bellach yn cynnal digwyddiad hanesyddol lle byddai Cymru yn ceisio mynd i’r afael â’i hallyriadau.
Aeth rhywun â fi i’r ystafell werdd lle cwrddais â Sophie Howe, Swyddog Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ymysg eraill. Ar ôl rhywfaint o fân siarad, roedd hi’n amser i ni fynd i’n seddi. Dechreuodd y diwrnod gyda sgwrs gan Mark Drakeford a Sophie Howe i ddilyn, ac yna fi. Roeddwn i’n nerfus iawn gyda phob eiliad oedd yn mynd heibio yn gwrando ar y bobl o’m blaen a chyn i mi sylweddoli, daeth fy nhro i. Fe geisiais dawelu fy nerfau am y tro olaf cyn cerdded ar y llwyfan. Ac er gwaethaf fy nerfau, aeth yr araith yn dda, a chododd pawb ar eu traed ar y diwedd (gwyliwch yr araith yma drwy sgrolio i 2:07:41).
Wedyn, fe aeth rhywun â mi i ystafell lle cafodd grŵp o bobl ifanc gyfle i ofyn rhywfaint o gwestiynau i Mark Drakeford cyn cwblhau rhywfaint o gyfweliadau ar gyfer BBC Wales. Ar ôl hynny cefais fynd yn ôl i eistedd yn y brif ystafell i wrando ar weddill y siaradwyr cyn cinio. Dros ginio, daeth llawer o bobl ataf i’m llongyfarch ar fy araith ac i gyfnewid manylion cyswllt er mwyn gweithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.
Mae’r profiad yma wedi dangos i mi y drysau y gall Our Bright Future eu hagor. Mae hefyd yn dangos os cewch chi gyfle da y dylech bob amser fanteisio arno, waeth pa mor frawychus mae’n ymddangos. Yn aml, y sefyllfaoedd sydd fwyaf anghyfforddus ac sy’n ein gorfodi ni i wthio ein hunain, ydi’r rhai sy’n dysgu’r gwersi pwysicaf i ni. Mae fy enw i’n gyfarwydd i bobl ac rydw i dal mewn cysylltiad â llawer o’r bobl wnes i eu cyfarfod yn y digwyddiad. Ers hynny rydw i wedi cael mwy o gyfleoedd ac rydw i wedi cael gwahoddiad i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed! Mae’r cyfleoedd gwych y mae Our Bright Future yn eu cynnig yn galluogi pobl i rwydweithio gyda phobl allweddol a dylanwadol yn y sector. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan yn unrhyw un o’r prosiectau i fynd amdani ar bob cyfrif. Dyna wnes i ac fe arweiniodd at un o brofiadau balchaf fy mywyd i!