Gan Isla King

Fe wnes i ymuno â thîm Our Bright Future yr Ymddiriedolaethau Natur fis diwethaf, ac mae’r ychydig wythnosau cyntaf wedi hedfan heibio eisoes. Mae wedi bod yn brofiad rhyfedd dechrau mewn swydd newydd ond yn gweithio o gartref o hyd, ond dydi hynny heb amharu dim ar fy nghyffro i am fod yn rhan o raglen mor ysbrydoledig.
Cyn cael y swydd yma, fe wnes i dreulio tair blynedd yn gweithio i Goed Cadw. I ddechrau yn rheoli prosiectau ond wedyn fe wnes i symud i fod yn aelod o’r tîm ymgyrchoedd, gan ganolbwyntio ar warchod coetiroedd hynafol rhag datblygiadau niweidiol. Roedd (ac mae) graddfa’r bygythiadau mae coetiroedd hynafol ar hyd a lled y wlad yn eu hwynebu yn ddychrynllyd, ond roedd yn rhoi llawer iawn o foddhad gweld ein hymdrechion ni’n achub cynefinoedd cwbl unigryw rhag difrod a dinistr.
Fe gadarnhaodd fy mhrofiad i o weithio gydag ymgyrchoedd a chyfathrebu gyda’r cyhoedd nid yn unig pa mor bwysig yw’r amgylchedd i ni i gyd, ond hefyd faint o wahaniaeth y gall pob unigolyn ei wneud. Mae hwn yn rhywbeth sydd mor amlwg yn holl brosiectau amrywiol a gwych Our Bright Future ledled y wlad, yn ogystal â gwaith eiriolaeth y rhaglen yn gysylltiedig â’r Tri Chais.
Mae’n gyfnod heriol i lawer o brosiectau, wrth iddyn nhw orfod addasu i gadw pellter cymdeithasol a dod o hyd i ffyrdd o gysylltu o bell. Er hynny, rydw i’n meddwl bod y cyfyngiadau symud diweddar a’r sgil-effeithiau mae pobl a sefydliadau wedi’u teimlo wedi profi pa mor hanfodol yw Our Bright Future. Rydw i’n siŵr bod llawer ohonom ni wedi dod i werthfawrogi treulio amser ym myd natur o’r newydd, a faint mae hyn yn cyfrannu at ein lles ni. Ar yr un pryd, mae pwysigrwydd mynediad at sgiliau a phrofiad os ydyn ni am weld adferiad gwyrdd, a’r angen am i bobl ifanc fod yn rhan ganolog o hyn, wedi dod yn amlwg.
Er ei bod yn ddyddiau cynnar i mi yn y rôl yma, mae’r holl bobl ifanc sy’n chwarae rhan mor allweddol yn eu prosiectau, ac yn rhaglen ehangach Our Bright Future, wedi creu argraff arna’ i. Rydw i wir yn edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda phobl ar draws y rhaglen yn fuan iawn!