Yn gynharach eleni, aeth grŵp o UpRisers ar Raglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol Llundain ar drip i lawr i Barc Ecoleg Penrhyn Greenwich. Fe gawson nhw fynd o amgylch y safle yng nghwmni un o wardeiniaid y parc a chael clywed am yr holl waith rhagorol sy’n digwydd yno. Mae’r parc yn cael ei gynnal a’i gadw gan The Conservation Volunteers (TCV), elusen wirfoddoli gymunedol sy’n gwarchod gofod gwyrdd ac yn ei hawlio’n ôl drwy waith cadwriaethol cynhwysol a hygyrch.
Mae Parc Ecoleg Penrhyn Greenwich yn cynnwys pedair erw o gynefin dŵr croyw ac mae’n gartref i gasgliad anhygoel o fywyd gwyllt, yn amffibiaid, pysgod a phryfed. Mae wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 2002 ac wedi sefydlu fel gwlybdir trefol bioamrywiol yn gyflym iawn. Mae’n cael ei reoli’n ofalus er mwyn cynnal balans o gynefinoedd, sy’n gartref i lawer o rywogaethau o fywyd gwyllt. Mae sawl rhywogaeth o wenyn a gwyfynod y credid eu bod wedi diflannu’n lleol wedi’u darganfod yn y parc yn ddiweddar. Mae treftadaeth y safle’n bwysig, gyda llawer o gysylltiadau â hanes, diwydiant a bywyd gwyllt. Yn hanesyddol, gwlybdir naturiol oedd Penrhyn Greenwich, ond daeth diwydiant trwm i feddiannu’r safle o ddiwedd y 1880au ymlaen, gyda ffatrïoedd cemegol, dur a gwaith nwy. Arweiniodd hyn at lygredd cynyddol o wastraff y ffatrïoedd, gan gymryd lle’r corstir a’r gwlybdir naturiol. Roedd y Parc Ecoleg yn rhan o raglen adnewyddu drefol a aeth ati i geisio adfer y rhywogaethau a’r cynefinoedd a gollwyd yn ystod y cyfnod diwydiannol, i weithredu fel safle tir llwyd pwysig er mwyn rheoli effeithiau trefoli cynyddol yn yr ardal.
Dywedodd Warden y Parc, Tony, am holl hanes yr ardal wrth yr UpRisers, ac am y rôl hanfodol mae’r parc yn ei chwarae mewn bod yn gartref i fioamrywiaeth sy’n cael gofal da. Hefyd rhannodd sut mae’r parc yn ofod pwysig i aelodau’r gymuned, sy’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol amrywiol yno, i wella lles, hybu cymdeithasu a chynyddu cyfleoedd gwaith. Roedd yr UpRisers yn teimlo bod y safle’n esiampl wych o natur drefol, datblygu cynaliadwy ac ymwneud â’r gymuned a daethant oddi yno wedi’u hysbrydoli o ran beth mae posib ei wneud i ddod â byd natur yn ôl i’n dinasoedd ni a gwneud iddo weithio i bobl a bywyd gwyllt.