Diolch i chi am ysgrifennu i’ch ysgol!

Gallwch ddefnyddio’r geiriau isod i greu eich llythyr neu eich e-bost unigryw eich hun, gyda’r opsiwn i ychwanegu eich geiriau eich hun os ydych yn dymuno. Os ydych chi’n fyfyriwr, mae’r fersiwn hwn o’r llythyr wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi. Os nad ydych yn yr ysgol mwyach, ond eisiau lleisio eich cefnogaeth yr un fath, edrychwch ar y geiriad yma sy’n cael ei awgrymu.

Byddem wrth ein bodd yn cael gwybod beth rydych chi’n ei ddweud wrth eich ysgol, ac os ydyn nhw’n ymateb – cofiwch roi gwybod i ni ar ourbrightfuture@wildlifetrusts.org.

Dywedwch wrth eich ysgol eich bod eisiau dysgu mwy yn yr awyr agored!

Dyma eiriau a awgrymir ar gyfer ysgrifennu at eich ysgol am ddysgu yn yr awyr agored. Gallwch wneud newidiadau ac ychwanegu eich meddyliau eich hun pan fyddwch yn ysgrifennu eich llythyr – bydd yn neges fwy pwerus os bydd eich ysgol yn clywed gennych chi yn eich geiriau eich hun.Annwyl _ [Ychwanegu enw’r pennaeth]

Rwy’n ysgrifennu atoch chi heddiw am ddysgu yn yr awyr agored. Fel person ifanc a myfyriwr yn eich ysgol, credaf y gallwn elwa’n fawr iawn o dreulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano.

Mae llawer o bethau cadarnhaol wrth fynd â dosbarthiadau i’r awyr agored a chysylltu â natur. Mae’n rhoi hwb i’n lles ni, ein hyder, ein sgiliau a’n graddau – hyd yn oed mewn pynciau nad ydynt yn gysylltiedig â’r byd naturiol. Ac nid dim ond y myfyrwyr sy’n elwa – mae’r amser sy’n cael ei dreulio yn yr awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar ein hathrawon hefyd! Ar ôl cymaint o amser i ffwrdd o’r ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud, byddai gwersi awyr agored yn ffordd wych o ailgysylltu â dosbarthiadau.

[Gallech ychwanegu eich geiriau eich hun yma am sut mae bod ym myd natur yn gwneud i chi deimlo – efallai eich bod yn teimlo ei fod yn eich helpu i ymlacio, a’i gwneud yn haws canolbwyntio?]

Mae Our Bright Future, rhaglen dan arweiniad yr Ymddiriedolaethau Natur, yn galw am i blant dreulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano. Mae gan eu gwefan lawer o wybodaeth am fanteision dysgu yn yr awyr agored, a hefyd fideos ysbrydoledig o syniadau ar gyfer gwersi awyr agored – mwy o wybodaeth yma.

[Os oes gennych chi syniadau ar gyfer y math o wersi awyr agored yr hoffech eu cael, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu hawgrymu!]

Mae’r Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored yn cael ei gynnal ar 20 Mai a 4 Tachwedd 2021. Mae’n amser perffaith i fynd â gwersi y tu allan, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn gallu ymuno â llawer o ysgolion eraill a fydd yn cymryd rhan ar y diwrnod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y mudiad Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored, dan arweiniad Learning Through Landscapes yn y DU ac Iwerddon, yma.

Plîs gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr fel fi’n gallu treulio o leiaf awr bob dydd yn dysgu ym myd natur ac amdano – ar y Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored a thrwy gydol y flwyddyn

Yn gywir,

[Enw]

Ddim yn yr ysgol mwyach? Gallwch leisio eich cefnogaeth i ddysgu yn yr awyr agored yr un fath!

Dyma rywfaint o eiriau a awgrymir ar gyfer ysgrifennu at eich ysgol(ion) lleol am ddysgu yn yr awyr agored. Gallwch wneud newidiadau ac ychwanegu eich meddyliau eich hun pan fyddwch yn ysgrifennu eich llythyr – os ydych chi wedi gweld effeithiau cadarnhaol dysgu ym myd natur ac amdano, cofiwch gynnwys eich profiad!

Annwyl ­_ [Ychwanegu enw’r ysgol/pennaeth]

Rwyf/rydym yn ysgrifennu atoch chi heddiw am ddysgu yn yr awyr agored. Fel … [Os ydych yn dod o brosiect sy’n gweithio gyda phobl ifanc, yn rhiant neu athro efallai, cyflwynwch eich hun a’ch diddordeb mewn/profiad o ddysgu yn yr awyr agored]

Profwyd bod treulio amser ym myd natur yn cael llawer o effeithiau cadarnhaol ar blant, gan gynnwys y canlynol:

  • gwella iechyd a lles – yn gorfforol ac yn feddyliol
  • mwy o hyder a chadernid
  • canolbwyntio’n well, a chyrhaeddiad addysgol uwch
  • gwell sgiliau cyfathrebu a gwell perthynas â chyd-ddisgyblion ac athrawon

[Os yw’n berthnasol, ychwanegwch eich profiad eich hun o sut mae’r amser sy’n cael ei dreulio yn yr awyr agored wedi bod o fudd i blant rydych chi’n eu hadnabod neu’n gweithio gyda nhw]

Wrth i ddisgyblion ailaddasu i astudio wyneb yn wyneb ar ôl blwyddyn o gyfyngiadau symud, mae gan ddysgu yn yr awyr agored y potensial i adfywio addysg. Ar yr un pryd, gall wneud cyfraniad amhrisiadwy at wella’r niwed mae’r pandemig wedi’i wneud i les corfforol a meddyliol pobl ifanc.

Mae’r Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored yn cael ei nodi ddwywaith eleni, ar 20 Mai a 4 Tachwedd, gan ddarparu man cychwyn delfrydol i edrych sut gall eich ysgol roi cyfleoedd rheolaidd i blant ddysgu ym myd natur ac amdano. Mae Our Bright Future, rhaglen dan arweiniad yr Ymddiriedolaethau Natur, yn galw am i blant dreulio o leiaf awr o amser gwersi y dydd yn yr awyr agored. Mae adnoddau, gan gynnwys syniadau ar gyfer gwersi awyr agored mewn gwahanol bynciau, i’w gweld ar wefan Our Bright Future.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y mudiad Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored byd-eang, dan arweiniad Learning Through Landscapes yn y DU ac Iwerddon, yma.

[Os oes gennych chi adnoddau ac awgrymiadau eich hun, ystyriwch eu cynnwys os gallwch chi]

Rwyf/rydym yn gobeithio y bydd yr uchod yn eich helpu i gefnogi eich myfyrwyr i dreulio o leiaf awr bob dydd yn dysgu ym myd natur ac amdano – ar y Diwrnod Ystafell Ddosbarth Awyr Agored a thrwy gydol y flwyddyn.

Yn gywir,

[Enw]