Lydia Allen yw’r Cydlynydd Darparu Rhaglenni yn yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol ac mae’n goruchwylio Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae’n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr 1-7 Mehefin 2019.
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn cydnabod pawb sy’n rhoi eu hamser a’u hegni i achosion da, drwy ymuno gyda thîm casglu sbwriel lleol neu gefnogi sefydliad bywyd gwyllt cenedlaethol yn eich gwarchodfa leol. Os ydych chi wrth eich bodd ar Twitter fel fi, efallai eich bod chi wedi gweld yr hashnodau ‘#WythnosGwirfoddolwyr2019’, ‘#WythnosGwirfoddolwyr’ a ‘#PŵerIeuenctid’ ar eich llinell amser yr wythnos yma, sy’n dangos sut mae pobl ifanc yn gweithredu’n ddylanwadol drwy wirfoddoli. Mae’n ysbrydoledig gweld cymaint o bobl ifanc yn rhoi o’u hamser i gymunedau ac yn creu newid yn lleol ac yn fyd-eang.
Yn 2016/17, fe wirfoddolodd 11.9 miliwn o bobl yn ffurfiol unwaith y mis. Mae’r amser a’r adnoddau sy’n cael eu cyfrannu’n anghredadwy ac mae ei wir angen hefyd. Gyda thoriadau i wasanaethau cyhoeddus ar draws bob sector, mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i oroesiad y pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol.
Un esiampl glir yw’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i sefydliadau amgylcheddol mwy y DU. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda 61,000 o wirfoddolwyr a’r Ymddiriedolaeth Natur gyda 43,000 o wirfoddolwyr yn dibynnu llawer iawn arnyn nhw i gefnogi eu gwarchodfeydd a’u safleoedd ledled y wlad, a does dim amheuaeth na fyddai’n bosib eu rhedeg hebddyn nhw. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyfrif bod ei gwirfoddolwyr yn rhoi mwy na 4.6 miliwn o oriau o gefnogaeth i’w gwaith, sy’n adnodd anhygoel. Wrth i fwy o bobl ifanc fynd drwy gynlluniau cenedlaethol fel Gwasanaeth Cenedlaethol y Dinesydd (NCS) ac Our Bright Future, mae nifer y rhai sy’n gwirfoddoli’n debygol o gynyddu.
Ers bod yn tua 13 oed, rydw i wedi gwirfoddoli mewn sawl ffordd; hyfforddi chwaraeon, helpu yn y llyfrgell leol, cynorthwyo pererinion, tywys pobl mewn tai hanesyddol, adfer gofod naturiol, casglu sbwriel ar strydoedd ac ysbrydoli pobl ifanc drwy waith ieuenctid. Rydw i’n teimlo bod gwirfoddoli’n rhoi llawer o foddhad i mi, oherwydd mae’n helpu rhywun neu rywbeth. Mae’n seibiant oddi wrth fywyd bob dydd ac yn gyfle i gyfarfod pobl newydd sy’n debyg i chi. Rydw i wedi dysgu cymaint amdanaf i fy hun a dysgu llawer o sgiliau ar yr un pryd.
I bobl ifanc, nid dim ond rhoi’n ôl yw gwirfoddoli. Mae hefyd yn ymwneud â dysgu sgiliau hanfodol a hyfforddiant wrth iddyn nhw ddatblygu sgiliau personol a gyrfaol i’w helpu i symud ymlaen mewn bywyd. Mae’r rhaglenni gwirfoddoli gorau’n seiliedig ar gyfranogiad sy’n dangos arfer gorau; gadael i bobl ifanc gael pŵer i reoli, gwneud penderfyniadau, creu a thyfu drwy hyfforddiant. Efallai mai dyma pam mae’r sefydliadau cenedlaethol mwy sy’n gallu fforddio cynnal y rhaglenni hyn yn gwneud mor dda wrth gadw eu gwirfoddolwyr a phrofi eu gwerth.
Fodd bynnag, mae gwaith cymunedol lleol yn cynyddu gyda phobl ifanc. Mae ‘meddwl yn fyd-eang, gweithredu yn lleol’ yn ymadrodd sydd wedi cael ei ddefnyddio ym myd busnes, addysg, cynllunio trefi, gwaith cymunedol a’r mudiad amgylcheddol. Rydw i’n meddwl ein bod ni’n gweld adfywiad o hyn mewn cymunedau lleol. Pobl ifanc heddiw yw’r genhedlaeth fwyaf ymwybodol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol; rydyn ni eisiau gweithredu, fel mae’r holl Streiciau Hinsawdd gan Ieuenctid sydd wedi’u cynnal ledled y DU yn dangos. Mae eu hangen i wneud rhywbeth sydd ddim yn cynnwys teithio neu drafnidiaeth yn golygu eu bod yn edrych yn nes at adref am rywbeth i gymryd rhan ynddo. Mae pobl ifanc heddiw’n gwybod bod posib iddyn nhw helpu eu ffrindiau o bob cwr o’r byd drwy ddechrau gartref, wrth eu traed, yn rhoi sylw i ymwybyddiaeth, agweddau ac ymddygiad eu cymunedau eu hunain tuag at yr argyfwng hinsawdd.
Rydw i’n ymwybodol iawn o anghenion pobl ifanc heddiw, a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, oherwydd fy rôl gyda’r Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol (NYA) a dyma pam rydw i mor frwd i wirfoddoli i gefnogi pobl ifanc. Ers mis Medi diwethaf, rydw i wedi bod yn gwirfoddoli bob dydd Iau yn y Clwb Ieuenctid lleol a heddiw rydw i’n cyflwyno sesiwn byr ar sbwriel ac ar gasglu sbwriel, gyda bocs o declynnau casglu sbwriel! Rydw i’n mwynhau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fod yn frwdfrydig am greu newid ac rydw i’n awyddus iddyn nhw weithredu yn lleol a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar gyfer eu dyfodol.
Fodd bynnag, rydw i wastad yn cael brwydr fewnol gyda fi fy hun – fe ddylai’r gwasanaethau yma gael eu darparu gyda chyllid y llywodraeth siawns, i greu swyddi ac i dalu i bobl am gefnogi ein cymunedau a’n gofod gwyrdd ni. Pam ddylai pobl orfod gwirfoddoli er mwyn sicrhau bod y gofod a’r gwasanaethau hanfodol yma’n weithredol? Gwaetha’r modd, dydw i heb ddod o hyd i’r ateb, na’r goeden arian (sydd wedi’i chuddio yn fforest dywyll osgoi trethi a diffyg bodolaeth profion modd). Am nawr, fe ddaliwn ni ati, gwirfoddoli er lles ein cymunedau ni gyda phŵer gweithredu cymdeithasol yr ifanc, nes bod ein gwerthoedd ni ar y cyd yn tynnu sylw at beth sydd ei angen, beth sydd ei eisiau a beth fydd yn creu dyfodol cynaliadwy i bawb.