Tu ôl i ymgyrch enfawr Greta Thunberg sydd wedi hawlio’r penawdau – #YouthStrike4Climate – a’r protestiadau Gwrthryfel Difodiant, mae mudiad ieuenctid amgylcheddol ar lawr gwlad yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn rhoi hwb i botensial pobl ifanc. Mae bron i 100,000 o bobl ifanc angerddol, medrus ac ymwybodol yn amgylcheddol yn arwain y ffordd at ddyfodol gwell drwy Our Bright Future, rhaglen sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Er bod #YouthStrike4Climate wedi bod yn effeithiol am godi ymwybyddiaeth o heriau amgylcheddol, mae’r portffolio o 31 o brosiectau sy’n ffurfio Our Bright Future wedi bod yn gwneud gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol yn dawel bach ledled y DU yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Eisoes mae pobl ifanc wedi ennill bron i 4,000 o gymwysterau amgylcheddol, sefydlu mwy na 200 o brosiectau entrepreneuraidd a gwella neu greu mwy na 1,500 o leoliadau cymunedol.
Mae Our Bright Future yn fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth (£33 miliwn) i geisio dod â sectorau ieuenctid ac amgylcheddol y DU at ei gilydd i greu mudiad ieuenctid i sefyll dros yr amgylchedd. Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd wedi ei wneud yn bosib, sef y cyllidwr mwyaf ar weithgarwch cymunedol yn y DU.
Un o 31 o brosiectau Our Bright Future yw’r Prosiect Academïau Gwyrdd (GAP). Mae GAP yn cael ei arwain gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae’n rhoi cyfle i ieuenctid 11 i 24 oed edrych ar ôl gofod gwyrdd yn eu cymunedau drwy sesiynau gweithgarwch wythnosol. Mae’r prosiect hwn yn cael ei weithredu yn Birmingham, Llundain, Manceinion Fwyaf, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Wrecsam ond mae prosiectau Our Bright Future ledled y DU yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion amgylcheddol.         
Dywedodd Ajai, 18 oed, o GAP, ‘Y prif wahaniaeth yw cyn hyn [y prosiect] doeddwn i ddim yn gwybod beth allwn i ei wneud i helpu’r amgylchedd. Nawr rydw i’n gwybod beth alla’ i ei wneud.
Er bod y protestiadau wedi arwain at ymdeimlad o frys o ran gweithredu dros yr amgylchedd, mae’n bwysig cael eich calonogi gan y gweithredu sy’n digwydd eisoes gan bobl ifanc drwy Our Bright Future. Mae ieuenctid 11 i 24 oed yn cael sedd wrth y bwrdd gyda phobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, gan gyfrannu at ymchwil y Llywodraeth a dod â chymunedau lleol at ei gilydd a gwella gofod gwyrdd i bawb.          
Dywedodd Cath Hare, Rheolwr Rhaglenni Our Bright Future; ‘Rydyn ni’n rhoi llais i bobl ifanc ac adnoddau i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol, sydd wir yn ysbrydoledig i bob oedran. Mae’r buddsoddiad o £33 miliwn, a ddaeth yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn gwbl allweddol i gefnogi pobl ifanc i gysylltu, cael eu grymuso, datblygu sgiliau newydd a gwella eu lles. Bydd ennyn brwdfrydedd pobl ifanc am faterion amgylcheddol yn arwain yn awr at angerdd am oes dros welliannau amgylcheddol. Rwy’n siŵr y gwelwn ni lawer o bethau gwych gan gyn-aelodau Our Bright Future’.
Dywedodd Peter Ainsworth, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: ‘Mae’n wych gweld sut mae pobl ifanc ledled y DU wedi cael eu cymell a’u hannog gan y prosiect yma. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae bron i 100,000 o bobl ifanc wedi chwarae rhan bwysig mewn dylanwadu ar ddyfodol eu hamgylchedd lleol. Mae buddsoddiad fel hwn yn fan cychwyn gwych i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i helpu i wneud eu dyfodol eu hunain yn fwy disglair ac i wneud i’w cymunedau ffynnu.’